Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 4 Hydref 2016.
Mae’n rhaid ystyried y pethau hyn; rwy’n deall hynny. Bydd y prif swyddog digidol yn ystyried materion fel hyn, ond gwyddom, er enghraifft, ein bod wedi gweld ym mis Mawrth eleni cyhoeddiad y cynllun data agored cyntaf ar gyfer Cymru, ac mae hwnnw'n cynnwys ein syniadau ar sut y gellir datblygu’r mater hwnnw yn y dyfodol.