Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 4 Hydref 2016.
Byddwch yn cofio, pan gawsom ddadl Cyfnod 3 a Chyfnod 4 y ddeddfwriaeth y llynedd—y Ddeddf trais yn erbyn menywod—ymrwymodd y Gweinidog ar y pryd, er nad oedd yn derbyn yr angen i gynnwys cyfeiriad at raglenni tramgwyddwyr, Lywodraeth Cymru wedyn i gasglu rhagor o dystiolaeth ar ddatblygu rhaglenni cyn-carchar i droseddwyr. Pa gamau mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i hwyluso hynny?