Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 4 Hydref 2016.
Diolch i chi am yr ateb cyflym, Weinidog. Gall troseddwyr ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ar-lein i gysylltu â phlant nad ydynt yn ymwybodol o fwriadau sinistr a allai fod y tu ôl i sgwrs sy’n ymddangos yn ddiniwed. Mae'r NSPCC wedi galw am i wersi diogelwch ar-lein fod yn rhan o'r cwricwlwm fel y gall plant adnabod arwyddion yr ymddygiad hwn a'i beryglon. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau y bydd gwersi diogelwch ar-lein yn rhan o'r fframwaith cymhwysedd digidol yng Nghymru?