<p>Fframwaith Cymhwysedd Digidol </p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 4 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:08, 4 Hydref 2016

Mae’r fframwaith cymhwysedd digidol, wrth gwrs, yn un o nifer o fframweithiau sy’n mynd i gael eu cyflwyno dros y blynyddoedd nesaf. Un gofid sydd wedi cael ei fynegi, wrth gwrs, yw diffyg amser o fewn y flwyddyn academaidd bresennol i hyfforddi ac arfogi athrawon ac addysgwyr i allu cymryd mantais lawn o’r fframweithiau newydd yma. Gan gofio mai dim ond rhyw bum diwrnod sydd ar gael ar gyfer hyfforddiant, fel y cyfryw, i athrawon mewn blwyddyn, sut ydych chi’n bwriadu sicrhau eu bod nhw’n cael eu harfogi er mwyn defnyddio’r fframweithiau newydd yma i’w llawn bwriad?