Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 4 Hydref 2016.
Diolch i chi am yr ateb yna. Yn amlwg, soniodd y Prif Weinidog am y ffaith fod gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi ymateb, unwaith eto, i bron i 81 y cant o'r galwadau lle ceir y bygythiad mwyaf i fywyd mewn wyth munud neu lai ym mis Awst a, thrwy wneud hynny, mae wedi cyrraedd y targed am yr unfed mis ar ddeg yn olynol. Mae hynny'n glod enfawr i'n staff ambiwlans yng Nghymru.
Felly, a wnaiff y Prif Weinidog nodi’r cyfraddau ymateb ar gyfer fy etholaeth i yn Islwyn ers cyflwyno cynllun arbrofol y model ymateb clinigol fis Hydref diwethaf, ac yn wir, beth mae hyn yn ei ddangos am berfformiad gwasanaeth ambiwlans Cymru i’m hetholwyr?