Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 4 Hydref 2016.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon ar welyau sydd ar gael mewn cartrefi gofal nyrsio yng Nghymru? Mae problem benodol yn fy etholaeth i ar hyn o bryd, lle mae cartref gofal nyrsio i henoed eiddil eu meddwl, Plas Isaf yn Llandrillo-yn-Rhos, yn y broses o gau, sydd wrth gwrs yn achosi cryn darfu ar yr 21 o breswylwyr yn y cartref, gan mai dyma gartref llawer ohonynt ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn, ac wrth gwrs mae’n achosi llawer iawn o darfu ar staff hefyd. Mae’r grŵp cartrefi gofal sydd yn berchen mewn gwirionedd ar yr eiddo hwn wedi cau cartrefi eraill yn yr ardal yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae prinder eithaf dybryd o welyau yn datblygu i henoed eiddil eu meddwl, yn enwedig yn ardal gogledd Cymru. Tybed a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog y sector cartrefi nyrsio i fuddsoddi mewn rhagor o'r mathau hyn o welyau yn y dyfodol neu efallai i weithio gyda'r GIG i ddatblygu modelau eraill o ofal. Byddwn yn croesawu datganiad ar hynny.
A gaf i, yn ail, alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ar yr adolygiad a gyhoeddodd i'r cyswllt awyr rhwng y gogledd a'r de yr wythnos diwethaf? Roeddwn i’n falch iawn o glywed am yr adolygiad hwnnw. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol y bu gennyf rai pryderon ynglŷn ag agweddau ar werth am arian o ran y cyswllt awyr penodol hwnnw am sawl blwyddyn bellach, ac y gallai’r arian o bosib gael ei fuddsoddi yn well naill ai yn y seilwaith rhwydwaith ffyrdd neu reilffyrdd, neu, yn wir, mewn cyswllt awyr i leoliad arall sy'n gwasanaethu pobl y gogledd. Tybed a gawn ni ddatganiad ar hynny er mwyn i ni allu archwilio rhai o'r materion hyn ac er mwyn i ACau gael dweud eu dweud. Diolch.