Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 4 Hydref 2016.
Rwyf eisiau gofyn am ddatganiad ar fater y cyfeiriwyd ato eisoes y prynhawn yma—penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol yn gyrff sector cyhoeddus. Gallai'r penderfyniad gael goblygiadau difrifol iawn ar adeiladu tai yng Nghymru, ond rwy'n pryderu hefyd y gall unrhyw gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i liniaru hynny, arwain at ddadreoleiddio'r sector cymdeithasau tai, a fyddai'n peri cryn bryder i denantiaid.