5. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 4 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:49, 4 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Rydym ni wedi cael nifer o awgrymiadau ar y pethau defnyddiol y gallai’r Cynulliad hwn eu trafod. Rwy’n meddwl pam y bydd y Cynulliad yn trafod heddiw, am y trydydd tro, raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Cawsom ddatganiad ar y rhaglen ddeddfwriaethol ar 18 Mai, un arall ar 28 Mehefin ac un arall ar 28 Medi. Wyddoch chi, nid yw hen fwyd yn blasu’n well wrth ei gynhesu am y trydydd tro. Mae ein plaid ni o’r farn bod hyn, mewn gwirionedd, yn gamddefnydd o’r Cynulliad, pryd y gallem fod yn gwneud pethau llawer mwy defnyddiol. Felly, ni fydd fy mhlaid i heddiw yn cymryd rhan yn y ddadl mewn protest oherwydd na fydd ond yn ailadrodd popeth yr ydym wedi ei ddweud o'r blaen. Rwyf yn gresynu bod y Llywodraeth yn gwneud hyn ac yn gobeithio, yn y dyfodol, na fyddwn yn cael ein gwahodd i wastraffu ein hamser yn y modd hwn.