Part of the debate – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 4 Hydref 2016.
Yn sicr, rwy’n credu ein bod i gyd wedi ein siomi yn fawr na fydd y trydaneiddio rhwng Caerdydd ac Abertawe yn cael ei gwblhau erbyn 2018 yn unol â’r addewid a’r bwriad gwreiddiol, ond mae Ysgrifennydd y Cabinet mewn gwirionedd yn cyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, ac mae'n ddefnyddiol iawn cael eich ymyriad heddiw ar y datganiad busnes, Jeremy Miles, gan fy mod i'n siŵr bod teimladau cryf yn y Siambr hon bod arnom angen cadarnhad o’r trydaneiddio i Abertawe, a bod angen iddo gael ei gwblhau yn gynnar yn y cyfnod ariannu 2019-24.