Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 4 Hydref 2016.
Diolch yn fawr, Lywydd. A diolch am y cyfle i wneud datganiad heddiw ar y cynigion ar gyfer diwygio llywodraeth leol.
Mae llywodraeth leol yn chwarae rhan hanfodol bwysig ym mywydau pob dinesydd yng Nghymru. Cynghorau sy’n darparu’r gwasanaethau sy’n addysgu ein plant, sy’n edrych ar ôl ein henoed, sy’n cael gwared ar ein gwastraff, ac sy’n goleuo ein strydoedd. Ac maen nhw’n parhau i wneud hynny yn ystod cyfnod y mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi ei alw’n gyfnod eithriadol o gwtogi gwariant cyhoeddus dros 10 mlynedd neu fwy.