Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 4 Hydref 2016.
Diolch yn fawr iawn am y datganiad. Mae’n rhaid eich llongyfarch chi, yn wir, am yr holl waith sydd wedi digwydd efo’r rhanddeiliaid, yr undebau llafur, arweinwyr y cynghorau a chynghorwyr ledled Cymru er mwyn casglu eu barn nhw am ddyfodol llywodraeth leol yng Nghymru. Ond, yn bennaf, diolch yn fawr a llongyfarchiadau ar gyflwyno fersiwn—fersiwn gwan, efallai, ond fersiwn—o bolisi Plaid Cymru ar gyfer diwygio llywodraeth leol. Rwyf am ddarllen ychydig o linellau allan o faniffesto Plaid Cymru, sy’n sôn am ein cynlluniau ni ar gyfer creu awdurdodau rhanbarthol. Yn y ddogfen yma, mae’n dweud
‘Ein cynnig ni yw esblygu graddol...i greu arweinyddiaeth newydd ar lefel rhanbarthau a chymuned.... Yr awdurdodau hyn fydd yn cynllunio’n strategol mewn addysg...priffyrdd a thrafnidiaeth, a gwasanaethau statudol eraill, yn cynnwys dyletswydd newydd i hyrwyddo datblygu’r economi.’
A ydy hynny’n swnio’n gyfarwydd? Ydy. Wel, mae’n swnio’n gyfarwydd iawn i mi, ac mae’n ddrwg iawn gen i dynnu eich sylw chi at hynny, ond mae’n rhaid imi wneud. A ydych chi rŵan, felly, yn derbyn, ar ôl yr holl ymgynghori, mai gan Blaid Cymru yr oedd y polisi gorau ar gyfer llywodraeth leol ar y pryd, o’i gymharu â’r hyn a gafodd ei gynnig gan eich rhagflaenydd, Leighton Andrews?
Fy ail gwestiwn ydy hyn: beth ydy’r nod yn eich datganiad chi heddiw? Beth ydy pwrpas y strategaeth yma? Os mai ymarfer ydy o ar gyfer arbed arian yn unig, nid yw’n mynd i weithio, mae’n beryg, ac ni fydd yn cyflawni prif bwrpas llywodraeth leol, sef gwasanaethu ein cymunedau ni. Pa asesiadau a ydych chi wedi eu gwneud er mwyn sicrhau bod y cynnig yr ydych chi’n ei gyflwyno heddiw yn mynd i wasanaethu ein cymunedau ni’n well na’r system bresennol?
Un o brif gryfderau llywodraeth leol ydy atebolrwydd a democratiaeth o fewn ein cymunedau ni. Mae yna ddiffyg eglurdeb yn eich datganiad chi ynglŷn â sut y byddwch chi yn parhau â’r atebolrwydd ar lefel ranbarthol, ac mae hyn yn peri gofid. A wnewch chi felly amlinellu’n union sut yr ydych am sicrhau atebolrwydd o fewn y strwythur rhanbarthol newydd yma?
Mae camu tuag at gysylltu iechyd â gofal cymdeithasol yn bwysig ac, yn wir, yn greiddiol i bolisi Plaid Cymru. Yn ystod y Cynulliad yma, mae’n rhaid i’r Llywodraeth fynd i’r afael â’r broblem enbyd o’r cymhlethdod rhwng gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, a sicrhau bod y mur ffug sy’n bodoli ac sydd wedi bodoli ers degawdau yn dod i ben er mwyn darparu gwasanaeth di-dor i gleifion. Nid yw’r cynlluniau fel rydym yn eu gweld nhw heddiw yn glir, o’m safbwynt i beth bynnag, o ran yr integreiddio yma sydd angen digwydd rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. A ydych chi’n derbyn, er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn i ddinasyddion Cymru, fod rhaid i ranbartholi gynnwys rhoi cychwyn ar y daith o integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol?
Ac, yn olaf, rydych chi’n cyfeirio at arbedion drwy ganoli swyddogaethau cefn swyddfa, er enghraifft, technoleg gwybodaeth ac adnoddau dynol, fel yr awgrymodd adroddiad Williams, ac mae hyn yn gwneud synnwyr, ond, wrth gwrs, mewn ardaloedd gwledig, cynghorau sir yn aml iawn ydy’r prif gyflogwyr yn yr ardal, felly pa asesiadau a ydych chi wedi eu gwneud er mwyn gweld beth fydd effaith eich cynlluniau chi ar swyddi, o gofio y cyni ariannol presennol? Diolch.