Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 4 Hydref 2016.
Bu llawer o ladd ysbryd dros y tair blynedd diwethaf ac mae hyn yn sicr yn dod â mwy o eglurder i'r drafodaeth. Rydych chi, o bawb, yn gwybod fy mod wir yn croesawu'r gydnabyddiaeth a'r gwaith sydd o'n blaenau o ran cynghorau cymuned, ond mae gennyf rai cwestiynau ar yr un yma.
Rydych yn sôn am ymgynghori pellach. Unwaith eto, nid dyna oedd y ffordd orau o fynd ati o ran y tri Gweinidog blaenorol, dros y pum mlynedd diwethaf, pan oedd llawer o awdurdodau lleol yn teimlo bod rhywun arall mewn gwirionedd yn dweud wrthynt beth i’w wneud. Teimlai llawer o aelodau o'r cyhoedd a'r cynghorau cymuned nad oeddynt wedi eu cydnabod o gwbl mewn unrhyw un o'r ymatebion. Felly, rwyf wir yn gofyn i chi: pa mor agored, pa mor dryloyw a pha amserlenni sydd gennych mewn golwg ar gyfer ymgynghoriad pellach ar hyn?
Yn amlwg, rwy'n falch iawn o weld yr uno gwirfoddol yn ôl ar y bwrdd a, phan fo awdurdodau lleol yn penderfynu dod ymlaen, yn gallu profi i chi, yn gallu eu costio ar achosion busnes cryf iawn, sut bydd hynny'n cyd-fynd â'ch trefniadau chi wrth symud ymlaen gyda rhanbarthau? A fyddwch chi’n edrych mwy ar gael y broses honno ar waith yn gyntaf ac yna'n caniatáu uno gwirfoddol, neu a fydd uno gwirfoddol yn cael ei ganiatáu yn ystod y broses?
Sylwais eich bod wedi crybwyll ffiniau gofal iechyd neu ffiniau iechyd. Gan fod llawer ohonom yn awr yn gweld ein bwrdd iechyd lleol mewn mesurau arbennig, mae rhai o'r cwestiynau yn y fan yna wedi bod yn hytrach am ddaearyddiaeth, demograffeg, a sut byddwch chi’n mynd i'r afael â’r rheini?
Rydych chi wedi crybwyll y bydd yn systematig ac yn orfodol, ond mae angen i ni fod yn wyliadwrus iawn o ba mor gyfarwyddol yw’r trefniadau a gyflwynir. Wrth gwrs, fe wnaeth Plaid Cymru ddatgan yn eu maniffesto y byddent yn deddfu i greu hyd at chwe awdurdod cyfunol rhanbarthol yn cynnwys cynghorau lleol presennol, gyda phwyslais ar integreiddio gwasanaethau cyhoeddus. Yr hyn y bydd fy etholwyr yn Aberconwy yn ei ofyn i mi yw, ‘Janet, ai haen arall o fiwrocratiaeth yw hyn? A yw'n haen arall o weinyddu democrataidd?’ Oherwydd, yn fy marn i, ar hyn o bryd, y peth olaf y mae pobl ei eisiau yw rhagor o fiwrocratiaeth a mwy o gost o ran cael mwy o wleidyddion etholedig, ond rydych yn gwybod fy mod i wedi codi’r materion hynny gyda chi.
Hoffwn i chi ateb y Siambr yn uniongyrchol: a allwch chi gadarnhau sut y mae polisïau Plaid Cymru yn eu maniffesto wedi dylanwadu ar eich cyhoeddiad yn y fan yma heddiw? Wrth gwrs, maent hefyd yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried symud o ddull cyllid fesul disgybl i fodel a ariennir yn seiliedig ar y dalgylch, a allai weld awdurdodau lleol fel Trefynwy yn cael llawer llai na Rhondda Cynon Taf. O gofio bod eich plaid yn gweithio’n agos gyda Phlaid Cymru erbyn hyn, a fydd diwygiadau o'r fath yn rhan o agenda cydwasanaethau rhanbarthol o dan arweiniad Llywodraeth Lafur Cymru? Wrth gwrs, yn y DU, o dan y Llywodraeth a arweinir gan y Ceidwadwyr, maent wedi sefydlu’r grŵp effeithlonrwydd a diwygio i gyflwyno cydwasanaethau yn y sector cyhoeddus, gan arwain at £14.3 biliwn o arbedion. Ond mae'r grŵp hwn yn cyflawni drwy sicrhau bod y Llywodraeth yn gweithredu fel un cwsmer, gan gyfuno grym prynu, prynu yn gyflymach, prynu yn lleol, a chynyddu'r gronfa o gyflenwyr a busnesau bach, a thrwy hynny gefnogi twf y DU. Nawr, rydym eisiau gweld y math hwnnw o dwf yma yng Nghymru.