Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 4 Hydref 2016.
Diolch i chi am y cwestiynau. Ni fyddaf yn treulio llawer o amser yn mynd dros hanes blaenorol, ond mae cyfres o bethau yn y Bil drafft a gyhoeddwyd a gafodd eu croesawu yn fawr gan awdurdodau lleol—y pŵer cymhwysedd cyffredinol, y fframwaith perfformiad llywodraeth leol newydd, cryfhau swyddogaeth cynghorwyr lleol ac yn y blaen. Felly, mae cryn dipyn i ddatblygu arno.
Gan droi at y cwestiynau penodol, o ran ymgynghori, fy mwriad yw defnyddio gweddill y flwyddyn galendr hon i gynnal rownd arall o drafodaethau manwl gydag awdurdodau lleol a'u partneriaid ar y datganiad yr wyf wedi ei wneud y prynhawn yma. Os gallwn ddod â hynny i ben yn llwyddiannus, yna fe fydd ymgynghoriad ffurfiol, fel y mae’n ofynnol i ni ei gynnal ar y materion hyn. Felly, mae cyfnod estynedig o drafod ar ddod.
Yn fy marn i mae’n bosibl cyflawni uno gwirfoddol ochr yn ochr â threfniadau rhanbarthol; Nid wyf yn credu bod yn rhaid i un ddilyn mewn cyfnod ar ôl y llall.
O ran natur systematig a gorfodol y diwygiadau yr ydym yn ceisio eu cyflwyno: mae’r ddwy egwyddor hyn yn bwysig i mi. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y trefniadau yr ydym yn cytuno arnynt yn digwydd yn yr un modd ledled Cymru ac nid wyf i, fy hun, yn barod i ddilyn y cyngor yr wyf wedi'i gael gan leiafrif cymharol fach o arweinwyr awdurdodau lleol y dylem yn syml ei adael iddyn nhw, dweud wrthynt beth yr hoffem iddynt ei wneud, ac rwy'n siŵr y byddent yn bwrw ymlaen a gwneud hynny. Rwy'n ofni ein bod wedi ar hyd y llwybr o dywys meirch at ddŵr, eu hannog, eu harwain o amgylch y pwll, gadael iddynt weld eu hadlewyrchiad yn y dŵr, gan obeithio y byddant yn yfed, dim ond i ganfod, ar y funud olaf, bod rhywun yn cymryd y goes, ac nad ydym yn y pen draw yn gallu cyflawni pethau y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ystyried eu bod yn ddoeth.
Nid wyf yn credu bod hyn yn haen newydd o fiwrocratiaeth. Nid yw'n arwain at fwy o gynghorwyr etholedig, yn sicr. Ac, fel yr wyf wedi ei ddweud, mae hanes mawr o drefniadau rhanbarthol a rennir yng Nghymru heb i’r cyhuddiad hwnnw gael ei wneud yn ei erbyn. Mae tarddiad y cynigion yn dod drwy drafodaethau gydag aelodau o bob plaid wleidyddol. Mae gennym, trwy ein cytundeb, berthynas benodol gyda Phlaid Cymru, a chefais drafodaeth gynnar iawn gyda'u llefarydd llywodraeth leol, fel y credaf y byddech yn ei ddisgwyl yn yr amgylchiadau hynny. Ac rwyf wedi trafod y cynigion yn uniongyrchol gydag arweinyddion Plaid Cymru o gynghorau yng Nghymru, fel yr wyf wedi ei wneud gydag arweinyddion y Blaid Geidwadol, arweinyddion Llafur, a phobl nad ydynt yn arwain unrhyw blaid wleidyddol o gwbl. Fy nod oedd ceisio dod o hyd i ffordd y gallwn greu consensws lle’r ydym yn tynnu elfennau o amrywiaeth o wahanol ffynonellau at ei gilydd.
Yn olaf, ynglŷn â chydwasanaethau, dywedais yn fy natganiad fy mod eisiau bod yn glir bod yn rhaid inni wneud cynnydd ar hynny. Bydd caffael yn rhan ohono, ond mae angen i ni wneud hynny mewn modd sensitif. Ni allaf ddychmygu pe byddwn wedi dweud heddiw ein bod yn mynd i dynnu cydwasanaethau oddi ar Gyngor Bwrdeistref Conwy a’u lleoli mewn un canolfan cydwasanaethau yn rhywle 200 milltir i ffwrdd y byddai aelodau ei hetholaeth yn dod ati i longyfarch Janet ar ymagwedd y blaid Geidwadol at y mater hwnnw. Felly, byddwn yn bwrw ymlaen â hyn, ond byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n sensitif i anghenion ac amgylchiadau lleol.