7. 4. Datganiad: Y Diweddaraf ar Ddiwygio Llywodraeth Leol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 4 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 4:11, 4 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf innau hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Cynghorau ym Mhrydain yw'r rhai mwyaf yn Ewrop, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod. Mae John Stewart wedi dweud bod maint cyfartalog awdurdod lleol ym Mhrydain 10 gwaith maint cyfartalog awdurdodau lleol yng ngweddill Ewrop.

Mewn cyfarfod Gorwel yr wythnos diwethaf, o dan gadeiryddiaeth David Melding, dywedwyd bod gan Slofenia, gwlad sydd oddeutu yr un maint â Chymru, tua 10 gwaith y nifer o gynghorau.

A yw awdurdodau mawr yn perfformio'n well? Mae Birmingham, yr awdurdod mwyaf ym Mhrydain ac un o'r mwyaf, os nad y mwyaf yn Ewrop, wedi cael problemau difrifol gyda'i wasanaethau cymdeithasol. Yng Nghymru, mae tri awdurdod lleol—Abertawe, Caerdydd a Rhondda Cynon Taf—yn cyfrif am tua chwarter poblogaeth Cymru. A yw’r awdurdodau hyn yn perfformio'n well nag awdurdodau o faint canolig a llai? Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth sy’n dweud hynny eto. Os gall y Gweinidog ddangos tystiolaeth y gallaf ei gweld i ddangos bod awdurdodau mwy yn perfformio'n well, byddwn i'n falch iawn o’i gweld. Os edrychwn ni ar iechyd, a oes unrhyw dystiolaeth bod y ddau fwrdd iechyd mwyaf, Betsi Cadawaladr a Chaerdydd a'r Fro, yn perfformio'n well na'r lleill?

Mae dau beth sy'n sicr o’m cythruddo pan fyddaf yn eu clywed ar y radio. Un yw, 'mae Cymru yr un maint â Birmingham,' er gwaethaf y ffaith ei bod tair gwaith ei faint, a’r llall yw bod sefydliadau mwy o faint yn well na rhai llai, er gwaethaf y ffaith na ellir darparu unrhyw dystiolaeth i gefnogi hynny. Wrth gwrs, cyn y gwaith ad-drefnu yn y 1970au, roedd llawer o awdurdodau lleol bach yng Nghymru: Cyngor Dosbarth Trefol Llwchwr, Cyngor Dosbarth Gwledig Gŵyr, ac, efallai yr enwocaf ohonynt i gyd, Cyngor Dosbarth Trefol Tredegar, lle'r oedd Nye Bevan yn aelod.

Gall mawr hefyd olygu biwrocratiaeth, gall mawr olygu aneffeithlonrwydd a gall mawr olygu pellenigrwydd. O ran awdurdodau lleol, mae maint cywir ar gyfer gwahanol bethau. Os ydych chi’n edrych ar gynllunio, er enghraifft, nid yw’r maint cywir ar gyfer rheoli datblygu yn ddim byd tebyg i’r maint cywir ar gyfer cynllun strwythur.

A gaf i godi dau bwynt a chwestiynau ar yr hyn y mae'r Gweinidog wedi ei gyflwyno—