Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 4 Hydref 2016.
O ran heddiw o bob diwrnod—i’r Torïaid sôn am dro pedol pan, yn sydyn, nad oes angen gwarged yn y gyllideb bellach ar gyfer cyni. Ond dyna ni. Rwy’n crwydro.
Iawn. Rwyf eisiau croesawu’n gryf y datganiad heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet a'r ymagwedd gydadeiladol gadarnhaol gyda rhanddeiliaid ledled Cymru heddiw, sy'n amlinellu ffyrdd newydd o weithio, mwy o eglurder a sicrwydd pellach ar gyfer llywodraeth leol, ei gweithlu, ei chynrychiolwyr a'r cyhoedd. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno, er hynny, ei bod yn hollbwysig, wrth i Gymru barhau i gael ei tharo a’i hysgytio gan effeithiau deuol—cynyddol debygol—toriadau i grant bloc Cymru gan y Llywodraeth Dorïaidd gynyddol ddideimlad ac, yn ychwanegol at y 10 y cant o doriadau llym i Gymru, ynghyd â diwedd cyllid strwythurol Ewropeaidd a'r addewidion gwag ac, ie, celwydd gan y pleidiau gyferbyn, i gyfeirio at yr arian a addawyd ac sydd wedi’i warantu, sy’n dal ar goll, ar gyfer Cymru?