Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 4 Hydref 2016.
Cafodd y mater hwn ei waethygu ymhellach gan angen demograffig sy’n cynyddu’n barhaus ac sy’n tyfu am ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus lleol rhagorol. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod yr angen am fframwaith amserol, cydnerth a chryf yn hanfodol i Gymru, ac mai nawr yw’r amser i’r Siambr hon achub ar ei chyfle i gydsynio, rhoi'r gorau i din-droi dros bwyntiau gwleidyddol a dod i gonsensws cyfunol a gaiff ei groesawu ynglŷn â’r ffordd ymlaen? Diolch.