Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 4 Hydref 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fis Hydref diwethaf, rhannais â'r Cynulliad blaenorol fy nghynlluniau i ymestyn y cynlluniau cyflawni ar gyfer iechyd difrifol tan fis Mawrth 2020. Mae’r cynlluniau cyflawni ar gyfer canser, clefyd y galon, diabetes, gofal diwedd bywyd, y rhai difrifol wael a strôc wedi cael eu hadolygu ac maent wrthi’n cael eu hadnewyddu. Bydd y cynlluniau ar gyfer cyflyrau anadlol a niwrolegol yn cael eu hadolygu yn 2017. Mae'r cynllun cyflawni ar gyfer clefyd yr afu/iau yn dod i ben yn 2020. Byddaf yn lansio’r ail gynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl ar 10 Hydref ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi £10 miliwn yn flynyddol—sef £1 filiwn ar gyfer pob un o'r cynlluniau cyflawni—ac mae effaith y buddsoddiad hwn yn cael ei hadrodd mewn adroddiadau blynyddol ar bob cyflwr iechyd difrifol.
Mae gennym lawer i fod yn falch ohono. Ers eu cyflwyno, mae pob cynllun cyflawni wedi helpu i wella'r gofal a’r driniaeth i bobl sydd â chyflwr iechyd difrifol. Bu gwelliannau sylweddol yn y canlyniadau i gleifion, gan gynnwys, er enghraifft, ostyngiad cyson yng nghyfradd y bobl yng Nghymru sy’n marw o glefyd cardiofasgwlaidd a chlefydau sy'n gysylltiedig â diabetes. Mae’r cyfraddau goroesi ar gyfer llawer o gyflyrau iechyd difrifol fel strôc a chlefyd y galon yn gwella, fel y mae’r cyfraddau goroesi ar gyfer pobl sy'n cael eu trin mewn unedau gofal critigol yng Nghymru.
Mae pob grŵp cyflawni wedi canolbwyntio ar atal a chymorth, gyda phwyslais ar gyd-gynhyrchu â'r trydydd sector yn benodol. Mae'r grŵp gweithredu ar gyfer diabetes wedi datblygu adnoddau i gleifion sy’n addysgu a chefnogi pobl sy'n byw gyda diabetes. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys pynciau fel pwysigrwydd sgrinio'r retina, gofal traed a hypoglycemia. Mae'r grŵp gweithredu ar gyfer strôc yn treialu dull o weithredu gyda gofal sylfaenol a chymunedol sy’n nodi’r rhai sydd mewn perygl o ffibriliad atrïaidd a sicrhau bod y driniaeth briodol yn ei lle. Dylai hyn leihau nifer y bobl sy'n cael strôc, yn ogystal â chefnogi pobl i ddeall a rheoli eu risg eu hunain. Dengys y canlyniadau o'r cynllun peilot y gallai'r dull hwn, o’i roi ar waith, arwain at ostyngiad o 10 y cant yn nifer y bobl sy’n cael strôc ledled Cymru.
Mae sicrhau bod gwasanaethau'n gweithio'n dda ac yn effeithlon er budd y claf yn un o’r agweddau allweddol ar bob cynllun cyflawni. Gan weithio mewn partneriaeth, mae’r grwpiau gweithredu ar gyfer clefyd y galon, strôc a diabetes yn cyflwyno rhaglen genedlaethol i asesu risg cardiofasgwlaidd. Mae hyn yn canolbwyntio ar gleifion sydd â’r risg uchaf o glefyd cardiofasgwlaidd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Y nod yw dod o hyd i glefyd cardiofasgwlaidd sydd heb ei ganfod a chefnogi pobl i leihau eu ffactorau risg eu hunain o ddatblygu'r cyflwr.
Bu datblygu gwasanaethau adsefydlu effeithiol yn flaenoriaeth genedlaethol i grwpiau cyflyrau niwrolegol a gweithredu ar gyfer strôc. O ganlyniad, mae’r ddau grŵp ar y cyd wedi darparu £1.2 miliwn i gefnogi gwasanaethau adsefydlu niwro yn y gymuned. Yn ogystal â hyn, fe wnaeth staff ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro gynnal gwasanaeth adsefydlu integredig peilot am saith diwrnod a oedd yn canolbwyntio ar gleifion strôc. Mae'r canlyniadau wedi dangos bod yr amser aros i gleifion mewn ysbyty wedi gostwng ar gyfartaledd o 58 i 24 diwrnod. Mae'r gwasanaeth newydd wedi parhau ac wedi cael ei ehangu. Bydd yr hyn a ddysgir o'r gwasanaeth hwn yn cael ei rannu â byrddau iechyd eraill mewn digwyddiad cenedlaethol i ddysgu am strôc.
Mae sicrhau bod cleifion yn cael diagnosis cyflym yn gwella’r cymorth a'r driniaeth y gall gwasanaethau eu darparu. Gwelwyd llawer o enghreifftiau ardderchog o gynnydd yn y mae hwn, gan gynnwys y gwasanaeth cardioleg cymunedol newydd a ariennir gan y grŵp gweithredu ar gyfer clefyd y galon, sydd bellach yn weithredol ar draws yr holl fyrddau iechyd. Mae'r gwasanaeth yn cynnig clinig cardioleg cymunedol sydd â mynediad uniongyrchol un stop, a chafodd gwasanaethau cardioleg cymunedol eu cyflwyno i ddarparu diagnosteg ac asesiad yn nes at gartref y claf mewn gofal sylfaenol neu mewn ysbyty cymunedol.
Gyda chefnogaeth Cymorth Canser Macmillan a'r cynllun cyflawni ar gyfer canser, mae rhaglen o fuddsoddi mewn oncoleg gofal sylfaenol wedi dechrau. Nodwyd meddygon teulu a nyrsys arweiniol ym mhob ardal bwrdd iechyd i gefnogi clystyrau gofal sylfaenol i wella diagnosis, atgyfeirio a chefnogaeth ôl-driniaeth.
Ym mis Medi y llynedd, cyflwynodd y bwrdd gweithredu ar gyfer gofal diwedd oes gynllun gofal ymlaen llaw, sy'n rhoi manylion am ddymuniadau a dewisiadau’r claf ar gyfer ei ofal yn y dyfodol. Hyd yn hyn, er enghraifft, mae mwy na 900 o aelodau o staff wedi cael hyfforddiant ar benderfyniadau gofal ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yn unig.
Mewn ymateb i'w flaenoriaethau lleol y mae eu hangen i gyflawni'r cynllun cyflawni ar gyfer y rhai difrifol wael, agorodd bwrdd iechyd prifysgol Caerdydd a'r Fro uned gofal ôl-anaesthetig ym mis Ionawr y llynedd. Mae’r uned newydd hon yn darparu capasiti ar gyfer gofal critigol wedi'i neilltuo i gleifion risg uchel dewisol, ar ôl llawdriniaeth. Mae eisoes wedi darparu gwell canlyniadau i gleifion a chwyldroi'r modd y mae gofal critigol yn cael ei ddarparu i gleifion llawdriniaeth ddewisol. Er enghraifft, mae llai o achosion o ganslo llawdriniaethau oherwydd pwysau argyfwng, mae’n golygu lleihad pellach yn yr amser y mae’n rhaid i’r claf aros yn yr ysbyty, ac mae llai o oedi wrth drosglwyddo gofal.
Er mwyn mynd ati i hunanreoli, mae angen hyder a sgiliau ar unigolion i reoli eu hiechyd yn ddyddiol ac mae grwpiau gweithredu wedi gweithio â’r byrddau iechyd i wella gwasanaethau a phrofiad y claf. Mae'r grŵp gweithredu ar gyfer diabetes wedi datblygu rhaglen addysg strwythuredig Cymru gyfan ar gyfer rhai 11 i 16 mlwydd oed sydd â diabetes, a elwir yn SEREN. Ar gyfer pob un o'r cynlluniau cyflawni, mae profiad y cleifion a’u llais yn cael eu cynrychioli gan y grwpiau cymorth priodol.
Mae'r grŵp gweithredu ar gyfer cyflyrau niwrolegol a strôc yn cydweithio i ddatblygu mesurau profiad a chanlyniad a adroddir gan gleifion cyflyrau niwrolegol a strôc. Mae hwn yn waith hynod bwysig nad yw unrhyw rannau eraill o'r DU wedi mynd i’r afael ag ef o'r blaen. Dylai'r ddau fesur fod yn barod i’w cyflwyno'n genedlaethol erbyn mis Mawrth 2018.
Mae'r grŵp gweithredu ar gyfer canser wedi sefydlu cylch safon a llywodraethu tair blynedd ar gyfer adolygiad gan gymheiriaid. Adolygwyd pob un o'r prif wasanaethau canser, ac maent bellach yn cael eu hail-adolygu, gan ddechrau gyda chanser yr ysgyfaint yn ystod 2016. Mae’r canfyddiadau eisoes wedi dangos newid mesuradwy, gan gynnwys ariannu arbenigwyr nyrsio clinigol a staff clinigol eraill, a datblygu polisïau a phrotocolau clinigol i leihau amrywiad diangen mewn safonau gofal ar draws byrddau iechyd. Addaswyd y model hwn gan nifer o grwpiau gweithredu, fel y rhai ar gyfer pobl ddifrifol wael, clefyd y galon a diabetes.
Rwy’n gobeithio y gall yr Aelodau weld bod pob cynllun cyflawni a grŵp gweithredu wedi cael effaith sylweddol a chadarnhaol. Rwy’n disgwyl i’r cynlluniau cyflawni ar eu newydd wedd barhau i gael yr effaith honno, a hoffwn ddiolch i'r grwpiau gweithredu am y cynnydd y maent wedi'i wneud yn erbyn y cynlluniau presennol. Edrychaf ymlaen at gyflawniadau pellach dros y blynyddoedd sydd i ddod ar draws Cymru gyfan.