Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 5 Hydref 2016.
Mi dynnais i sylw rhagflaenydd yr Ysgrifennydd Cabinet at broblem lle roedd busnesau bach yn mharth menter Môn yn methu â gwneud cais am ostyngiad yn eu hardrethi busnes. Roeddwn i’n ddiolchgar iawn iddi hi am gydnabod bod yna broblem ac am agor ffenest newydd ar gyfer gwneud cais am ostyngiad. Mae’n ymddangos eto rŵan bod yr un broblem yn parhau. Felly, pa fwriad sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i sicrhau bod busnesau bach yn gallu manteisio ar yr hyn roedden nhw wedi disgwyl gallu manteisio arno fo o symud i barth menter, yn cynnwys, wrth gwrs, gostyngiad mewn ardrethi busnes?