Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 5 Hydref 2016.
Aeth busnes yn fy etholaeth i, AIC Steel Ltd, i ddwylo’r gweinyddwyr ddoe. Gyda’r bygythiad o ddiswyddiadau’n wynebu 120 o weithwyr, pa sicrwydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi i mi, i’r gweithlu ac i’r undebau llafur fod pob llwybr yn cael ei ystyried i gefnogi’r gweithwyr drwy’r cyfnod anodd hwn?