Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 5 Hydref 2016.
O ystyried bod y prosiect hynod gyffrous hwn wedi cael ei gyhoeddi gyntaf oddeutu wyth mlynedd yn ôl, onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod etholwyr ledled rhanbarth Blaenau’r Cymoedd yn hollol iawn i leisio’u rhwystredigaeth, o gofio nad yw’r penderfyniad terfynol i roi golau gwyrdd i’r prosiect hwn wedi’i wneud eto, heb sôn am ddechrau ar y gwaith adeiladu mewn gwirionedd?