Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 5 Hydref 2016.
Mae’r rhaglen lywodraethu’n cynnwys ymrwymiad i ddatblygu masnachfraint rheilffyrdd ddielw newydd i Gymru. Ni chredaf mai fi yw’r unig un sydd wedi ceisio deall, ac wedi methu deall hyd yn hyn, beth y mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd. Dywedodd cyfarwyddwr polisi Arriva Cymru, wrth siarad â’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn ddiweddar,
Nid wyf yn teimlo fy mod erioed wedi gweld esboniad o’r cysyniad hwn.
Ar hyn o bryd, mae pedwar cwmni er elw yn paratoi i wneud cais am fasnachfraint rheilffyrdd Cymru pan ddaw’r cyfnod presennol i ben. A ydynt yn gwastraffu eu hamser, ac ai bwriad y Llywodraeth yw defnyddio Trafnidiaeth Cymru, sef tua phump o bobl yn Nhrefforest ar hyn o bryd, i wneud cais fel rhan o’r gystadleuaeth am y fasnachfraint?