Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 5 Hydref 2016.
Mae yna gwestiwn yno: a oeddech chi’n cefnogi’r isafswm cyflog cenedlaethol? A oedd eich plaid yn cefnogi’r isafswm cyflog cenedlaethol? Oherwydd rydym i gyd yn gwybod mai’r ateb yw nad oedd UKIP, ac nad ydynt, yn cefnogi ymdrechion i wella safonau byw’r teuluoedd ar yr incwm isaf. Y ffaith amdani yw mai’r mudiad Llafur a gyflwynodd yr isafswm cyflog cenedlaethol. Y mudiad Llafur sy’n cyflwyno’r cyflog byw ar draws yr economi. Ac o ran yr economi yma yng Nghymru, rwyf eisoes wedi dweud mai Cymru, ers datganoli, yw’r pumed uchaf o ran cynnydd mewn gwerth ychwanegol gros y pen o’i chymharu â 12 rhanbarth a gwlad y DU. Ac o ran gwerth ychwanegol gros eto, mae safonau byw materol pobl yn cael eu pennu yn ôl eu cyfoeth, ac yn hyn o beth mae Cymru’n perfformio’n llawer gwell ar fesurau o gyfoeth.