Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 5 Hydref 2016.
Maent yn dychwelyd o’r sector preifat i’r sector cyhoeddus. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn y pedwerydd chwarter, ac roeddwn yn gobeithio cael yr wybodaeth ddiweddaraf am hynny—pedwerydd chwarter y flwyddyn nesaf. Er y bydd costau’r bont wedi’u talu erbyn hynny, mae’r Trysorlys wedi dweud ei fod yn bwriadu parhau i godi toll, yn rhannol, mae’n dweud, er mwyn ad-dalu dyled y mae’n honni ei bod yn ddyledus ar y bont. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu dweud pa bryd y bydd y ddyled honedig honno wedi’i thalu’n ôl ac a yw’n cytuno y dylid diddymu’r doll ar y pwynt hwnnw?