Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 5 Hydref 2016.
Weinidog, diolch i’r drefn, mae’r cyfraddau ysmygu yng Nghymru wedi gostwng dros gyfnod o flynyddoedd, ond yn anffodus, mae ysmygu yn dal i effeithio’n enbyd ar iechyd yng Nghymru. Credaf fod polisi cyhoeddus a’r cyfyngiadau ar ysmygu wedi chwarae rôl arwyddocaol, fodd bynnag, yn lleihau nifer y bobl sy’n ysmygu. Roedd arolwg eleni gan Action on Smoking and Health ac YouGov yn dangos bod cefnogaeth gyhoeddus gref i ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu fel y mae’n gymwys i fannau cyhoeddus yng Nghymru. Felly, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant cyfyngu ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru?