Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 5 Hydref 2016.
Diolch am y cwestiwn. Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yw darparu gwasanaethau iechyd i bobl Sir Benfro sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i gleifion. Wrth gwrs, byddwn yn cael ein harwain gan y dystiolaeth a’r cyngor clinigol gorau a mwyaf diweddar er mwyn darparu’r gofal o ansawdd uchel y mae pobl Sir Benfro yn ei haeddu.