Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 5 Hydref 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, mae rhieni Sir Benfro wedi colli’r gwasanaethau newyddenedigol yn Ysbyty Llwynhelyg, er mwyn cael gwasanaeth gwell yn Ysbyty Glangwili yn ôl yr hyn a ddywedwyd, ond dywed y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant fod gwasanaethau newyddenedigol yng Nghymru dan lawer gormod o bwysau, gan roi diogelwch y babanod gwaelaf mewn perygl, ac maent yn dweud mai dau yn unig o’r 10 uned newyddenedigol sydd â digon o nyrsys i staffio eu holl gotiau. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i rieni Sir Benfro, felly, y bydd symud o Sir Benfro i Sir Gaerfyrddin, ac o un ysbyty i’r llall, yn arwain mewn gwirionedd at gymhareb staffio well a gwell gwasanaeth yn y tymor hir?