Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 5 Hydref 2016.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am gyfarfod â mi ar sawl achlysur ers eich penodiad i drafod y ganolfan gofal arbenigol a chritigol a gynlluniwyd ar gyfer Cwmbrân. Fodd bynnag, erys y ffaith fod yr achos busnes ar gyfer yr ysbyty wedi bod gyda Llywodraeth Cymru ers blwyddyn yn awr, a chi bellach yw’r pedwerydd Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am wneud penderfyniad ar yr hyn sy’n ddatblygiad hollbwysig, nid yn unig ar gyfer fy etholwyr yn Nhorfaen, ond ar gyfer Gwent gyfan. Yn wir, fel y gwyddoch, mae’r datblygiad yn rhan sylfaenol o gynllun de Cymru. Pan ofynnais i chi am hyn yn y pwyllgor iechyd yn ddiweddar, fe ddywedoch eich bod yn disgwyl cael cyngor ac y byddech yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau erbyn y toriad hanner tymor, ac eto, ddoe, dywedodd y Prif Weinidog fod penderfyniad i’w ddisgwyl erbyn diwedd y flwyddyn hon. Mae fy etholwyr bellach wedi cael addewid o ysbyty newydd ers dros ddegawd. Pa bryd y gallwn ddisgwyl penderfyniad terfynol ar hyn?