<p>Tiwmorau Niwroendocrin </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 3:06, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae yna amryw o densiynau wedi bod yn y system, yn amlwg, yn dibynnu ar ble rydych yn byw yng Nghymru, o ran pa bryd y gallech gael eich gweld. Ceir rhai enghreifftiau o arfer rhagorol ac yna mewn ardaloedd eraill, mae yna oedi wrth symud drwodd i’r llwybr triniaeth a gwasanaethau canser. Rydym wedi cynnig ar sawl achlysur—ac mae wedi cael ei brofi’n ymarferol mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig—pe bai uwch oncolegydd yn cael ei benodi i gael trosolwg cenedlaethol er mwyn ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau canser, gallai hyn fod yn welliant buddiol o ran amseroedd aros ac o ran darparu gwasanaethau canser yn gyffredinol ledled Cymru.

Beth fyddai eich barn ar bennu unigolyn gyda’r cefndir clinigol angenrheidiol i’ch cynorthwyo yn eich rôl, a’ch swyddogion, wrth fwrw gwelliant yn ei flaen ar amseroedd aros canser, fel bod modd cael gwared ar y loteri cod post o’r system, i’r graddau sy’n bosibl?