Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 5 Hydref 2016.
Diolch yn fawr am yr ateb yna, Weinidog. Wrth gwrs, fel rydw i wedi crybwyll eisoes yn y pwyllgor, mae bod yn heini a bod yn ffit yn golygu gostyngiad yn eich pwysau gwaed chi o ryw 30 y cant, gostyngiad yn lefel y siwgr yn eich gwaed eto o ryw 30 y cant, gostyngiad yn lefel y colesterol o ryw 30 y cant a hefyd colli pwysau ryw 30 y cant. Nid oes yna ddim tabled ar wyneb daear sy’n gallu cystadlu efo’r ffigurau hynny. Felly, a allwch chi bwysleisio pa mor hawdd yw hi o ran y busnes ffitrwydd yma? Mae lot o bobl—beth sy’n eu stopio nhw ydy meddwl, ‘O, mae’n rhaid imi brynu aelodaeth o ryw “gym” yn rhywle; mae’n rhaid imi brynu’r cyfarpar arbenigol; dillad ac ati’. Mater o gerdded 10,000 o gamau’r dydd ydy o. A allwch chi jest bwysleisio pa mor hawdd ydy hi, yn y bôn, i fod yn ffit?