3. Cwestiwn Brys: Uned Iechyd Meddwl Bryn Hesketh

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:17, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Rydych yn dweud wrthym yn glir nad ydych yn disgwyl i’r gwasanaeth fod yn berffaith, ond oni ddylem ddisgwyl i’r gwasanaeth fod yn well? Eto i gyd, dyma ni eto yn wynebu’r hyn a allai fod yn sgandal difrifol arall yn ymwneud â gofal o ansawdd gwael i gleifion yng ngogledd Cymru. Ond y tro hwn, wrth gwrs, mae sancsiwn mesurau arbennig eisoes wedi cael ei ddefnyddio. Felly, mae’n anodd gweld, os yw ein hofnau gwaethaf yn cael eu gwireddu, lle y gall y Llywodraeth fynd ar hyn, mewn gwirionedd.

Yn amlwg, gall meddygon a nyrsys sy’n camymddwyn golli eu gwaith, gallant golli eu bywoliaeth, gallant hyd yn oed fynd i’r carchar, ac eto rydym yn gweld y sgandalau hyn dro ar ôl tro. Yn aml, wrth gwrs, pan fo’r ymchwiliad yn digwydd, maent yn tynnu sylw at fethiannau rheoli. Nawr, yn eich barn chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a yw’n bryd rhoi rheolwyr y GIG o dan drefn reoleiddio broffesiynol, a modd o ddiswyddo rheolwyr os yw eu penderfyniadau neu eu methiannau yn arwain at niwed i gleifion?