Part of the debate – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 5 Hydref 2016.
Diolch, Lywydd. Rydw i’n cynnig y cynnig yn enw Plaid Cymru ac yn dweud pa mor briodol yw hi, rydw i’n meddwl, ar yr adeg hon ein bod ni’n oedi i drafod pa mor bwysig yw’r cynllun datblygu gwledig fel rhan o’r ffordd y mae’r Llywodraeth yn delio â chymunedau gwledig a pha mor bwysig yw hi i ddelio yn iawn ac yn briodol, wrth ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, â’r ffordd y mae’r cynllun datblygu gwledig yn gweithredu. Rŷm ni wedi trafod cryn dipyn yn y Senedd hyd yma y cymhorthdal, fel mae’n cael ei alw, y mae ffermwyr unigol yn ei gael, ond mae’n bwysig cofio mai rhan arall o’r gefnogaeth sy’n dod ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd yw honno sydd yn ehangach o dan y cynllun datblygu ar gyfer gwneud y diwydiant amaeth yn fwy cystadleuol, i sicrhau bod rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol, sydd yn erbyn newid hinsawdd, a hefyd i ddatblygu economi cydbwysol yn yr ardaloedd gwledig.
Mae’r arian hwn yn werthfawr iawn i Gymru. Mae e bron yn £1 biliwn am gynllun tair blynedd o 2014 i 2020, ac mae tua hanner yr arian yna yn dod gan Lywodraeth Cymru ei hunan. Rwy’n credu mai’r ffordd orau i ddisgrifio pa mor bwysig yw’r cynllun yma yw jest i ddisgrifio beth wnes i ddydd Llun wrth ymweld â fferm Blaencwm, Cynllwyd. Ces i groeso caredig gan y teulu Jones yno. Fferm gymysg yw Blaencwm, tua 5 milltir o Lanuwchllyn—fferm ddefaid ac ychydig o loi sugno, a fferm lle mae amrywiaeth a nifer o fentrau newydd wedi cael eu datblygu gan y teulu dros y blynyddoedd diwethaf. Mae yna ddiwydiant llifio coed gyda nhw, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf maen nhw wedi gosod gwresogydd biomas er mwyn defnyddio’r sglodion coed i gynhesu’r tai a hefyd i sychu’r coed yn y lle cyntaf. Maen nhw wedi defnyddio cynllun Glastir, y grant effeithlonrwydd, i osod storfa newydd ar gyfer slyri, a sied, wrth gwrs, yn mynd gyda honno er mwyn ehangu nifer y lloi y gallan nhw eu cadw. Yn sgil hynny, wrth gwrs, mae’r slyri yn cael ei storio’n well ac yn cael ei ddosbarthu’n well ar y tir hefyd. O ran gwella porfa a gwella gwrychoedd, neu berthi, fel y byddwn i’n eu galw nhw, mae pob math o bethau’n dod at ei gilydd, o’r diwydiant amaeth traddodiadol, os liciwch chi—mae’n fferm fynyddig deuluol, sydd wedi bod yn yr un teulu ers 10 cenhedlaeth, gyda llaw—i’r dulliau mwyaf newydd a thraddodiadol hefyd, i gynnal y cynefin ar gyfer bioamrywiaeth ac atal newid hinsawdd.
Yn y cyd-destun hwn, rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod ffermwyr fel y Joneses ym Mlaencwm yn cael rhyw sicrwydd o beth sy’n digwydd i’r cynllun datblygu gwledig. Hyd yma, mae’r Llywodraeth ond wedi tynnu i lawr rhyw £30 miliwn o’r arian sydd, fel y dywedais i, hyd at £1 biliwn, bron, dros chwe blynedd. Felly, mewn dwy flynedd o gynllun chwe blynedd, dim ond rhyw 10 y cant—ychydig mwy, efallai, os ydych yn cynnwys yr arian gan y Llywodraeth hefyd, ond ni all fod yn fwy na rhyw 10 y cant o’r arian sydd wedi’i wario. Gyda’r penderfyniad i dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd, mae angen gofyn beth mae’r Llywodraeth yn mynd i’w wneud nawr i sicrhau bod yr arian hwn yn cael ei wario a’i ddefnyddio yn y ffordd fwyaf priodol yn ystod y blynyddoedd i ddod.
Mae’r Llywodraeth eisoes wedi dweud y bydd yn cadw at unrhyw gynllun sydd wedi’i arwyddo a’i gymeradwyo’n swyddogol erbyn mis Ionawr 2017. Ond ers iddyn nhw ddweud hynny, mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud y bydd yr arian y mae’n disgwyl i fod ar gael ar gyfer cronfeydd amaeth a chronfeydd amgylcheddol yn ei le tan ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn 2019-20. Felly, rwy’n gobeithio heddiw y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gallu cadarnhau bod y Llywodraeth am barhau â’r cynllun datblygu gwledig yn ei ffurf bresennol tan o leiaf yr amser inni dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd.
Mae yna ddwy elfen arall i’r cynnig sydd gyda ni gerbron heddiw. Mae’r un gyntaf yn tanlinellu unwaith eto pa mor bwysig yw aelodaeth o’r farchnad sengl i’r sefyllfa bresennol sydd ohoni. Heb fod unrhyw un wedi cynnig yn well unrhyw berthynas gyda gweddill yr Undeb Ewropeaidd, nad yw’n cynnwys cwotâu ac nad yw’n cynnwys unrhyw dariff ar gynnyrch amaeth Cymru, mae Plaid Cymru yn dal o’r farn bod aelodaeth o’r farchnad sengl yn hollbwysig. Mae’r farn yna wedi cael ei hategu gan yr ymgynghoriad rŷm ni wedi’i gynnal dros yr haf gyda’r diwydiant amaeth a chyda’r diwydiant yn ehangach, y mudiadau amgylcheddol hefyd, sydd yn teimlo ei bod hi’n bwysig iawn bod dau beth yn parhau: deddfwriaeth amgylcheddol a hefyd y gallu i fod yn rhan, heb gwotâu, heb dariffs, o’r farchnad sengl. Yn absenoldeb unrhyw gynnig arall gan Lywodraeth San Steffan neu Lywodraeth Cymru o ran y berthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd sy’n parhau â’r nodweddion yna, mae Plaid Cymru o’r farn mai aelodaeth a bod yn rhan o’r farchnad sydd yn hollbwysig ar hyn o bryd.
Mae rhan olaf y cynnig yn ymwneud â symudedd pobl. Rydym bellach yn y sefyllfa taw Plaid Cymru, y blaid genedlaethol, fel y mae pobl yn ein galw ni—neu’r ‘narrow nationalists’ o bryd i’w gilydd—yw’r unig blaid sy’n credu mewn symudedd pobl ar draws ffiniau, sy’n credu na ddylai fod ffiniau sy’n atal economi ac yn atal pobl rhag cyfrannu at yr economi mewn gwahanol lefydd. Mae’n wir i ddweud bod y dystiolaeth, megis gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, yn dangos nad oedd yna unrhyw effaith go iawn o ran y bobl o’r tu allan i’r Deyrnas Gyfunol o ran y sector amaeth y tu mewn i Gymru. Mae hynny yn rhywbeth i’w gofio. Rŷm ni mewn sefyllfa bellach lle mae’r Ysgrifennydd Cartref am restru’r bobl o dramor sydd yn gweithio i gwmnïau. Ni fyddwn i wedi meddwl y byddai’r Blaid Geidwadol—plaid a oedd yn arfer credu yn y farchnad rydd—am orfodi hyn ar gwmnïau, ond dyna’r sefyllfa drist sydd ohoni. Ac yn anffodus, mae’r Blaid Lafur yn mynd law yn llaw â’r agwedd ffiaidd yna tuag at bobl o’r tu allan i’r wlad bresennol.