4. 3. Dadl Plaid Cymru: Yr Economi Wledig

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 3:30, 5 Hydref 2016

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a chynigiaf welliant 2 a gyflwynwyd yn fy enw i. Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma, ac i dynnu sylw at bwysigrwydd arian y rhaglen datblygu gwledig i’n cymunedau gwledig. Wrth gwrs, rydym ni ar yr ochr hon i’r Siambr yn cytuno â phwynt cyntaf y cynnig yma, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi eglurder ynghylch y cyllid ar gyfer projectau y cynllun datblygu gwledig ar ôl Ionawr 2017, ac i ddarparu dull mwy rhagweithiol at y rhaglen bresennol. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cynlluniau a grantiau a ddarperir o dan y cynllun datblygu gwledig yn hygyrch i fusnesau gwledig, a bod ffermwyr hefyd yn gallu cymryd rhan yn hawdd yn y cynlluniau hyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi’n glir eu bod yn awyddus i gefnogi projectau a fydd yn arwain at newid trawsnewidiol yn y ffordd y mae ffermydd yn cael eu rhedeg, yn hytrach na chefnogi projectau a fyddai ond yn cael gwelliannau ar raddfa fach. Fodd bynnag, mae’r ffigurau yn dangos, o dan y cyfnod ymgeisio cyntaf ar gyfer y cynllun grant cynhyrchu cynaliadwy, allan o 271 a fynegodd ddiddordeb, dim ond 12 a ofynnwyd i gyflwyno ceisiadau llawn. Efallai, wrth ymateb i’r ddadl hon, y gall yr Ysgrifennydd Cabinet egluro, os yw Llywodraeth Cymru wir am weld newid trawsnewidiol, pam taw dim ond 12 allan o 271 a fynegodd ddiddordeb sydd wedi eu derbyn i gyflwyno ceisiadau llawn. Mae’n gwbl hanfodol bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cadarnhau na fydd unrhyw newid i daliadau sengl yng Nghymru, neu i daliadau o dan y rhaglen datblygu gwledig, tan 2020, yn enwedig o ystyried bod Canghellor y Trysorlys nawr wedi rhoi sicrwydd y bydd arian yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei warantu tan 2020.

Mae ail bwynt y cynnig yma yn cyfeirio at y farchnad sengl, a sefyllfa ffermwyr Cymru ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd Aelodau yn ymwybodol fy mod i wedi pleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, felly, yn amlwg, roeddwn i eisiau aros yn y farchnad sengl, oherwydd bod hyn yn hanfodol i’n heconomi, yn enwedig i economi cefn gwlad. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni nawr barchu dymuniad pobl Cymru a phobl Prydain a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ac, felly, mae’n hanfodol bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ar y cyd â’r gweinyddiaethau datganoledig, yn trafod y fargen orau posibl gyda’r Undeb Ewropeaidd, i gael mynediad at y farchnad sengl.

Mae’r undebau ffermio wedi lansio eu hymgynghoriadau ac arolygon Brexit eu hunain dros yr haf, ac rwy’n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn chwarae ei rhan ac yn ymgysylltu’n llawn ag undebau ffermio, a ffermwyr eu hunain, i drafod polisïau amaethyddol. Rwy’n derbyn bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud yn ddiweddar, ac rwy’n dyfynnu, bod

‘llawer iawn o waith…wedi digwydd dros yr haf gyda’r sector ffermio, yn edrych ar yr hyn y byddwn yn ei wneud ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd’.

Ac rwy’n gobeithio bod hynny’n wir. Fodd bynnag, rwy’n siomedig bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cael ychydig iawn o ymgysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ers y refferendwm. Mewn ymateb i’m cwestiwn ysgrifenedig yn ddiweddar, mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei gwneud hi’n gwbl glir, ers y bleidlais, ei bod hi wedi cwrdd â’r Gweinidog Gwladol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig unwaith yn unig, a hynny yn y Sioe Frenhinol. Ac rwy’n credu bod hyn yn dangos diffyg diddordeb, a diffyg blaenoriaeth, gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ein cymunedau gwledig. O ystyried pwysigrwydd amaethyddiaeth i Gymru a’r effaith aruthrol y gallai canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ei gael ar ffermwyr Cymru, rwy’n poeni ac yn pryderu fod yr Ysgrifennydd Cabinet ddim wedi gwneud mwy i ymgysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Rwy’n ildio i Mark Reckless.