Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 5 Hydref 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n falch o ymateb i’r ddadl hon ar ran y Llywodraeth. Fel Llywodraeth, rydym wedi bod yn gwbl glir ynglŷn â’n hymrwymiad i ddarparu cymorth i sicrhau cymunedau gwledig llwyddiannus a chynaliadwy. Mae ein rhaglen datblygu gwledig yn cefnogi ystod eang o unigolion, busnesau, sefydliadau a chymunedau, gan gynnwys teuluoedd fferm a busnesau fferm. Mae’n rhoi hwb i’n heconomi wledig, drwy ddarparu llwybrau cyllido ar gyfer gwell mynediad at ofal plant, twristiaeth, creu ynni cymunedol a rheoli tir yn well, ymhlith pethau eraill.
Hyd yma, mae cyfanswm yr arian a ymrwymwyd ar gyfer y rhaglen oddeutu £530 miliwn. Mae hynny dros hanner y cyllid mewn ychydig dros ddwy flynedd ar gyfer yr hyn sy’n rhaglen saith mlynedd. Mae’r rhan fwyaf o’r buddsoddiad sylweddol yn mynd i ffermwyr a choedwigwyr ac wrth gwrs, mae yna oediad a bydd y gwariant yn dal i fyny â’r ymrwymiad maes o law. Mae o leiaf 15 o gynlluniau gwahanol wedi agor gydag arian yn cael ei ddyfarnu, gan gynnwys y grant cynhyrchu cynaliadwy, y grant buddsoddi mewn busnesau bwyd a’r gronfa datblygu cymunedau gwledig.
Rydym yn cyd-ariannu’r rhaglen gyda’r Undeb Ewropeaidd ac felly’n disgwyl i Lywodraeth y DU ddarparu gwarant ddiamod i gyllido pob prosiect dan gontract y rhaglen dros eu hoes, ac felly rydym yn croesawu’r sicrwydd gan Drysorlys y DU ddydd Llun. Fodd bynnag, nid yw hyn eto’n gyfystyr â gwarant y bydd yr holl gyllid UE yn cael ei sicrhau.
Wrth gwrs, hyd nes y bydd y DU yn gadael yr UE, mae’r cyllid yn parhau, fel y mae ein hymrwymiadau. Bydd pob contract rhaglen datblygu gwledig presennol yn cael ei anrhydeddu. Fel Simon Thomas, a agorodd y ddadl hon, rwyf wedi ymweld â llawer o ffermydd ac wedi gweld drosof fy hun y manteision y mae cyllid y Cynllun Datblygu Gwledig yn eu creu. Fel Llywodraeth gyfrifol, roedd yn gymwys i ni oedi cyn agor cyfnod ymgeisio Glastir Uwch 2017 hyd nes y caem ymrwymiadau clir gan Lywodraeth y DU ynglŷn â chyllid. [Torri ar draws.] Na, nid oes gennyf amser, mae’n ddrwg gennyf. Yn dilyn cyhoeddiad blaenorol gan Drysorlys y DU ym mis Awst, ailddechreusom drafodaethau gyda’r ymgeiswyr ar unwaith ac rydym yn disgwyl gallu cymeradwyo contractau yn ôl yr arfer.
Gan droi at bwynt 2 y cynnig, rydym yn derbyn pwynt Plaid Cymru ac felly nid oes sail resymegol dros dderbyn gwelliant y Ceidwadwyr. Yn fy nhrafodaethau lu gyda’r sector amaeth, bwyd a physgodfeydd ers 23 Mehefin, dyma’r un mater sy’n codi dro ar ôl tro: mae mynediad heb dariff i’r farchnad sengl, at 500 miliwn o bobl, yn hanfodol, pwynt a wnaed yn glir hefyd gan y Prif Weinidog a’m cyd-Aelod yn y Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. Mae mynediad llawn a dilyffethair i farchnad sengl yr UE yn flaenoriaeth sylfaenol ac yn llinell goch.
O’i gymryd yn ei gyfanrwydd, yr UE yw prif bartner masnachu’r DU. Mae Cymru’n allforio cryn dipyn o’i chynnyrch. Yn 2015, roedd y bwyd a’r ddiod a allforiwyd yn uniongyrchol o Gymru yn werth dros £264 miliwn—allforiwyd dros 90 y cant i’r UE. Mae allforion cig coch yn werth cryn dipyn dros £200 miliwn y flwyddyn ac mae allforion bwyd môr yn werth £29.2 miliwn, gyda 80 y cant yn cael ei allforio i’r UE.
Yr wythnos hon, mae’r Prif Weinidog wedi dweud y bydd yn dechrau proses erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth 2017. Mae mater symudiad diamod pobl yn rhywbeth y bydd angen ei archwilio a’i drafod fel rhan o drafodaethau’r ymadawiad. Fodd bynnag, gwn fod pwysigrwydd gweithwyr mudol i’r economi wledig ac yn ehangach yn ddiamheuol. Mae symudiad diamod llafur wedi cynnal diwydiannau a gwasanaethau megis amaethyddiaeth a phrosesu bwyd sy’n dibynnu ar lefel o symud o fewn yr UE. Ers 2005, mae canran y gweithwyr mudol yn y gweithlu yng Nghymru wedi dyblu. Mae’n bwysig cydnabod eu gwerth a pharchu eu cyfraniad at ein heconomi yng Nghymru, a gwrthod gwahaniaethu, anghydraddoldeb a rhagfarn, sy’n cael eu hanelu at y gweithwyr hyn yn aml.
Gan ddychwelyd at bwynt Paul Davies, yfory fe fyddaf yn cyfarfod eto â George Eustice, Gweinidog Gwladol Llywodraeth y DU dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, yn Llundain. Yn anffodus, nid oedd Ysgrifennydd Gwladol DEFRA ar gael, unwaith eto. Ar y penwythnos, byddaf yn mynd i Lwcsembwrg i gyfarfod o Gyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yr UE, ac unwaith eto, yn cyfarfod â’m cymheiriaid gweinidogol, lle byddaf yn rhan o drafodaeth bellach ar adael yr UE a materion eraill gyda’r Gweinidogion.
Mae deialog yn gweithio’r ddwy ffordd, Paul Davies—dylech gofio hynny. Mae fy swyddogion wedi ymgysylltu’n wythnosol â swyddogion DEFRA, ac mae’n bwysig iawn fod y swyddogion hynny yn DEFRA yn parchu datganoli. Mae hefyd yn hanfodol iawn ein bod yn adeiladu dealltwriaeth gyffredin ar draws y pedair gweinyddiaeth a bod gennym safbwynt ar y cyd mewn perthynas â’r cyfleoedd allweddol, yr heriau, y risgiau a’r bygythiadau a achosir o ganlyniad i’r bleidlais i adael yr UE. Ond rwyf wedi dweud yn glir iawn wrth fy nghymheiriaid gweinidogol fod amaethyddiaeth wedi’i ddatganoli i’r lle hwn ers 17 mlynedd ac rydym yn disgwyl i’r ddeddfwriaeth, y polisïau a’r pwerau gael eu dychwelyd yn llawn i’r lle hwn pan ddaw’r amser.