Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 5 Hydref 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n credu bod yna rywfaint o dir cyffredin gyda’r cynnig a gyflwynodd Plaid Cymru. Nid oes amheuaeth fod wyneb manwerthu wedi newid yn ddramatig dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac nid ydym am i ganol trefi fod yn llefydd i siopau’n unig. Rydym am iddynt fod yn fwy na hynny; rydym am iddynt fod yn ganolfannau i’r gymuned. Ar hynny, rwy’n meddwl y gallwn i gyd gytuno.
Yr hyn a oedd yn ddigalon yn araith Sian Gwenllian oedd y ffocws ar barcio ceir fel y prif ateb i hynny. Rwy’n gweld hynny’n ddigalon am ddau reswm: un yw safonau dwbl, ond hefyd y ffaith ei fod yn gynsail ffug. Yn gyntaf, ar y safonau dwbl: yn Sir Gaerfyrddin, ymgyrchodd Plaid Cymru yn gadarn dros barcio ceir am ddim cyn cymryd rheolaeth ar yr awdurdod lleol. Clywsom am y peth hyd at syrffed, wythnos ar ôl wythnos, a chyn gynted ag y cawsant reolaeth ar y cyngor, nid yn unig eu bod heb gyflwyno parcio am ddim yn ôl eu haddewid, ond fe wnaethant y sefyllfa’n waeth. Maent yn awr yn ehangu Parc Trostre, parc manwerthu ar gyrion y dref, ar yr un pryd â honni eu bod yn dangos cydymdeimlad at ganol y dref.
Maent wedi sefydlu tasglu nad yw’n cyfarfod ac mae’r ardal gwella busnes lleol yn honni nad yw’n cael cefnogaeth gan y cyngor. Ac felly, y geiriau a gawsom am gyflwyno parcio am ddim, ac y clywsoch hwy’n cael eu hailadrodd eto y prynhawn yma—pan gânt y cyfle i’w rhoi ar waith yn ymarferol, nid ydynt yn eu cyflawni.
Y pwynt arall sy’n rhagrithiol yn fy marn i yw hwn: ddoe, fe eisteddom drwy Leanne Wood yn ceryddu’r Llywodraeth am beidio â phwysleisio ei tharged ar gyfer mynd i’r afael â newid hinsawdd yn ddigon cadarn, yn gresynu at y ffaith nad oeddem yn siarad digon am y targed 2020 ac yn pwysleisio pwysigrwydd mynd i’r afael â newid hinsawdd a hynny ar frys. Heddiw, y diwrnod wedyn, dyma bwyslais ar bolisi a fyddai’n gwneud newid hinsawdd yn waeth; byddai’n cynyddu’r ddibyniaeth ar geir. Felly, mae yna wrthddweud mawr yn sail i hyn, ar y naill law yn dweud bod angen i ni feddwl yn wahanol a gwneud yn wahanol, a’r diwrnod wedyn, yn dweud y dylem roi ein holl wyau yn y fasged o gynyddu traffig ceir, er gwaethaf y ffaith eu bod, o gael y cyfle—[Torri ar draws.] Na, gadewch i mi barhau. Er gwaethaf y ffaith, pan gawsant y cyfle i roi’r polisi hwn ar waith, eu bod heb wneud dim.
Ar yr ail—[Torri ar draws.] Gadewch i mi symud ymlaen rhywfaint. Yr ail reswm rwy’n ystyried bod hwn yn ddigalon yw ei fod hyn yn seiliedig ar gynsail ffug—nid oes y fath beth â pharcio am ddim. Mae’n rhaid i’r arian ddod o rywle, ac ar hyn o bryd daw o wasanaethau eraill—o’r gwasanaethau cymdeithasol ac addysg. Mae’r gost o ddarparu yr hyn a elwir yn lle parcio rhad ac am ddim, yn ôl yr Adran Drafnidiaeth, rhwng £300 a £500 y flwyddyn ar gyfer un lle. Nid yw’n rhad ac am ddim; telir amdano. Yn Sir Gaerfyrddin—edrychais ar eu cyllideb ar gyfer 2016-17, ac mae honno’n dangos dyraniad gwariant refeniw o £1.9 miliwn ar gyfer meysydd parcio, ochr yn ochr ag incwm o bron i £3.2 miliwn y flwyddyn o feysydd parcio. Mewn un flwyddyn. Felly, byddai hepgor yr incwm hwnnw a thalu costau am feysydd parcio oddeutu £5 miliwn, o bosibl, yn Sir Gaerfyrddin yn unig. A bydd yn creu mwy o alw. Ni allwn ond edrych ar barcio ceir mewn ysbytai ers i ni gyflwyno parcio am ddim yno. Mae’r meysydd parcio yn llawn dop, ac ym mhob maes parcio bron, ceir galw am ragor o lefydd parcio ceir, ar gost o rhwng £300 a £500 y flwyddyn.
Felly, nid yn unig nad ydych yn cadw at eich gair ar fynd i’r afael â newid hinsawdd, nid yn unig nad ydych yn gwneud yr hyn y dywedoch y byddech yn ei wneud yn Sir Gaerfyrddin, ond rydych hefyd yn mynd ag arian oddi wrth wasanaethau hanfodol fel cymhorthdal i berchnogion ceir, a hefyd yn creu mwy o alw am hynny.
Cofiwch nad oes car gan chwarter yr holl aelwydydd. Nawr, mae’r dystiolaeth ar feysydd parcio i adfywio canol trefi, ar y gorau, yn wan. Mae’n seiliedig ar siopwyr yn meddwl bod y rhan fwyaf o’u cwsmeriaid yn dod yn y car, ac nid yw hynny’n wir. Dangosodd yr arolwg diweddaraf ynghanol Bryste mai un rhan o bump o siopwyr yn unig a deithiodd yno mewn car. Mae manwerthwyr yn tueddu i oramcangyfrif pwysigrwydd y fasnach sy’n cyrraedd yn y car bron 100 y cant. Pan ofynnir i siopwyr, byddai’n llawer gwell ganddynt weld amgylchedd gwell i gerddwyr, palmentydd lletach a chreu parthau i gerddwyr yn hytrach na pharcio ceir am ddim. Yn wir, dangosodd Living Streets, yn eu hadroddiad ‘The pedestrian pound’, y gallai creu lleoedd gwell ar gyfer cerdded hybu masnach 40 y cant—