Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 5 Hydref 2016.
Beth bynnag, roeddwn yn mynd i ddweud, fel cyn-berchennog busnes, gallaf eich sicrhau bod parcio ceir—fod cwsmeriaid wedi dweud wrthyf ei fod yn hanfodol iddynt, oherwydd gallent fynd i rywle arall gyda meysydd parcio tu allan i’r dref, a’i fod yn effeithio’n sylweddol, yn enwedig pan fydd gennych wardeiniaid traffig ar eich gwarthaf am fod ddwy funud dros eich amser. Felly, mae’n effeithio’n sylweddol.