Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 5 Hydref 2016.
Mae’r Llywodraeth Geidwadol, a’r Llywodraeth glymblaid o’i blaen, wedi pwysleisio’n gyson fod angen i ni adeiladu mwy o dai. Rydym wedi ymrwymo i adeiladu—Llywodraeth y DU, hynny yw, ar gyfer Lloegr—400,000 yn rhagor o dai fforddiadwy, a dyna pam y cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei tharged yn y diwedd, rwy’n credu. Beth bynnag, rwy’n credu bod angen mwy o adeiladu tai, ac efallai mai rhywbeth ar gyfer rhywdro arall yw dadansoddi record Llywodraeth arall, ond record wael sydd gan y Llywodraeth yma.
Carwn ddweud hefyd, wrth fynd heibio, fod atgyweirio tai yn cael ei anwybyddu’n aml fel sector. Mae annog polisïau mwy effeithiol yn hynny o beth ac atgyweirio llawer o’r 23,000 o eiddo gwag yng Nghymru—dyna werth dros dair blynedd o adeiladu tai ar hyn o bryd, ar y tueddiadau sydd gennym. Mae nifer helaeth o gartrefi yn cael eu gadael yn wag, llawer ohonynt oherwydd nad ydynt yn addas i neb fyw ynddynt.
Rwyf am droi yn awr at y ffigurau adeiladu tai eu hunain, gan fy mod yn credu bod hwn yn faes pwysig y mae angen craffu’n fanwl arno. Ym mis Medi 2015, noddodd Llywodraeth Cymru adroddiad gan y diweddar Alan Holmans, a nodai, a dyfynnaf, os yw’r angen a’r galw am dai yng Nghymru yn y dyfodol yn mynd i gael ei ddiwallu, mae angen dychwelyd at y cyfraddau adeiladu tai nas gwelwyd ers bron i 20 mlynedd, a chynnydd yng nghyfradd twf tai fforddiadwy.
Rwy’n cymeradwyo’r Llywodraeth am gomisiynu’r adroddiad hwn. Mae’n astudiaeth ragorol, ac rwy’n annog yr Aelodau i gael copi o’r llyfrgell ac i’w ddarllen yn drylwyr.
Byddai hyn yn golygu, yn ôl yr adroddiad, cynnydd o 8,700 o gartrefi newydd y flwyddyn i 12,000 o gartrefi newydd y flwyddyn. Nid wyf yn beirniadu’r Llywodraeth os yw’n dymuno adolygu’r targed, ond gosodwyd y targed o 8,700 o gartrefi tua 10 mlynedd yn ôl. Efallai ei fod wedi cael ei wneud gyda diwydrwydd dyladwy ar y pryd, ond gwyddom bellach fod mwy o angen a bod yn rhaid i ni ei ddiwallu. Felly, ni fyddai newid y targed yn rhywbeth y byddwn yn ei gondemnio—byddwn yn ei groesawu pe baech chi yn awr yn derbyn targed sy’n nes at 12,000, neu hyd yn oed yn fwy.
Yn ddiweddar, gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol—eu gair hwy—erbyn 2021. Fodd bynnag, dywedodd y Prif Weinidog yn ddiweddarach mewn ateb i mi y byddai hyn yn gadael y targed adeiladu tai blynyddol heb ei newid ar 8,700 o gartrefi y flwyddyn. Mae’n dal i fod yn ddirgelwch i mi sut y mae’r ddau ddatganiad yn sefyll ochr yn ochr, gan eu bod i’w gweld yn gwrthddweud ei gilydd yn llwyr.
Wedi archwilio’r data, rwy’n meddwl mai’r hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd yw hyn: y targed blaenorol ar gyfer tai fforddiadwy yn y sector cymdeithasol oedd 3,500. Mae hwn bellach wedi cael ei godi i 4,000 fel ein bod yn cael 20,000 dros bum mlynedd, neu 2,500 o dai fforddiadwy ychwanegol erbyn 2021, nid yr 20,000 o gartrefi ychwanegol a honnwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r ffigurau wedi cael eu chwyddo. Mae hyn yn awgrymu bod y targed adeiladu tai blynyddol bellach wedi codi i 9,200. Rwy’n croesawu unrhyw eglurhad y gall y Gweinidog ei roi yma, ond rwy’n meddwl mai dyna’r casgliad rhesymegol sy’n rhaid ei gyrraedd. Mae’r ffigur hwn yn fwy nag oedd y Prif Weinidog yn ei feddwl, ond mae’n llawer llai na’r 12,000 oedd eu hangen yn amcanestyniad yr Athro Holmans. Mae eraill wedi dadlau y dylid rhagori ar y targed o 12,000 ei hun am fod angen i ni ateb galw sydd wedi cronni yn y system. Mae Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr wedi galw am darged o 14,000, ac mae hynny’n rhywbeth rydym yn ei gymeradwyo fel y lefel y mae angen i ni ei chyrraedd erbyn 2020.
Fodd bynnag, sut bynnag yr edrychwn arno, y gwir yw bod angen i ni adeiladu mwy o gartrefi. Gallwn helpu’r broses honno drwy symleiddio’r system gynllunio a’i gwneud yn haws ei defnyddio. Nawr, rwy’n meddwl eu bod yn gweld datblygiadau mawr yn hyn o beth yn Lloegr, ond araf braidd yw ein dull o symleiddio’r system yma. Mae angen i ni ryddhau mwy o dir ar gyfer adeiladu, gan gynnwys archwiliad, byddwn yn dweud, o dir ym meddiant y cyhoedd. Ac mae angen i ni ddefnyddio derbyniadau hawl i brynu i ddarparu tai cymdeithasol newydd. Byddwn yn dweud mai dyna un o wendidau’r polisi blaenorol ar adegau—rwy’n ddigon parod i gyfaddef hynny. Mae angen i ni ddefnyddio’r derbyniadau i gael rhagor o dai, cymaint yw’r angen am dai. A’i ailddefnyddio felly ar gyfer tai cymdeithasol.
A gaf fi yn olaf, Ddirprwy Lywydd, gyfeirio at y gwelliannau, a wnaed i gyd gan Blaid Cymru? Rydym yn gwrthod gwelliant 1, gan ei fod yn dileu’r rhan fwyaf o’n cynnig. Rwy’n siŵr nad yw hynny’n syndod mawr i chi. Rydym yn derbyn gwelliant 2 ac yn wir, rwy’n ategu ei gynnwys yn gynnes, a dyna pam rwyf mor falch o gymeradwyo’r ffaith fod Llywodraeth y DU yn cryfhau’r economi ac yn sicrhau bod hynny’n darparu sylfaen gadarn ar gyfer ehangu’r sector tai. Rydym yn derbyn gwelliant 3. Nid oes hierarchaeth yma; i lawer o bobl, tai cymdeithasol yw’r dewis gorau. Rwy’n datgan hynny’n syml ac yn symud ymlaen. Ac rydym yn derbyn gwelliant 4. Mae’n debyg mai ateb technegol yn unig sydd ei angen ar hwn, ond gallai fod angen un deddfwriaethol i fynd i’r afael â’r anghysondebau yn y cyfrif y mae’n ymddangos bellach fod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi eu rhoi i ni, ond mae angen i ni symud yn gyflym i egluro’r sefyllfa. Diolch, Ddirprwy Lywydd.