9. 8. Dadl Fer: Diogelwch, Storio a Gwaredu Biomas a Chynnyrch Pren Halogedig gan Gwmni South Wales Wood Recycling

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:16 pm ar 5 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 6:16, 5 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies am gyflwyno’r ddadl fer hon ac i Caroline Jones a Suzy Davies am eu cyfraniadau.

Mae’r ffordd y mae cymdeithas yn rheoli gwastraff wedi newid yn sylweddol dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac mae hyn wedi creu goblygiadau i bobl, yr amgylchedd ac o ran rheoleiddio. Wrth i wastraff gael ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi ac i fyny’r hierarchaeth wastraff, cafwyd manteision amgylcheddol sylweddol, ond mae hefyd wedi creu rhai risgiau amgylcheddol. Erbyn hyn rydym yn dibynnu llai ar dirlenwi, mae gennym fwy o wastraff sy’n cael ei gasglu ar wahân, ei ailgylchu a’i adfer, gyda llawer mwy o safleoedd yn didoli a phrosesu gwastraff cyn ei anfon i’w drin a’i waredu.

Mae’r safleoedd hyn yn rhan annatod o’r seilwaith sydd ei angen arnom i reoli ein gwastraff, a phan fydd cwmnïau a safleoedd gwastraff yn gweithredu’n dda maent o fudd cadarnhaol i’r amgylchedd, busnesau a chymdeithas yn gyffredinol. Maent yn helpu i warchod adnoddau gwerthfawr, creu swyddi a symud Cymru tuag at economi fwy cylchol.

Mae’r rhan fwyaf o’r diwydiant gwastraff yn gweithredu’n gyfrifol, a chyda’r newidiadau mewn rheoli gwastraff, mae’n bosibl y bydd angen i nifer o weithredwyr, gyda llawer ohonynt yn newydd i’r diwydiant, ddeall y gofynion rheoleiddio a’r rhagofalon ar gyfer rheoli gwastraff yn well. Mae yna ran fach o’r diwydiant hefyd sy’n methu cyrraedd y safonau gofynnol, neu’n gweithredu y tu allan i’r gyfraith, ac mae angen i ni roi camau cryf ar waith i atal y rhain rhag gweithredu ac i gael gwared arnynt o’r diwydiant.

Rydym yn gwybod o’n trafodaethau gyda’r Gymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol a’u hadroddiad ar gyfer y DU ar droseddau gwastraff fod gweithgaredd anghyfreithlon yn costio tua £569 miliwn y flwyddyn ac yn tanseilio gwaith cyfreithlon. Yn bwysicach fyth, mae’r gweithgareddau hyn yn niweidio ein hamgylchedd a’n cymunedau, ac rwy’n cymeradwyo pobl Heol-y-cyw am y ffordd y maent wedi ymdopi â’r digwyddiad. Rwyf hefyd yn meddwl y dylwn sôn am y tri chynghorydd lleol y cyfeiriodd Huw Irranca-Davies atynt hefyd—Alex Owen, Martyn Jones a Gary Thomas—am y ffordd y maent wedi gweithio gyda’r gwasanaethau brys a’r rheoleiddwyr, ac wedi cefnogi eu hetholwyr a’u cymunedau.

Mae gennym drefn reoleiddio ddeuol ar gyfer awdurdodi gweithgareddau gwastraff. Mae trefn gynllunio awdurdodau lleol yn rheoli datblygiadau a defnydd tir, gan osod gofynion i ddatblygwr reoli symudiadau traffig, sŵn ac effeithiau eraill ar yr amgylchedd a’r gymuned leol. Ategir hyn gan y drefn drwyddedu amgylcheddol, sy’n diogelu’r amgylchedd ac iechyd pobl trwy reoli gweithrediadau o ddydd i ddydd ar safle. Mae’n ofynnol i’r rhan fwyaf o weithredwyr gwastraff gael trwydded amgylcheddol a gyhoeddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Gellir cofrestru rhai gweithgareddau risg isel llai o faint fel rhai a eithrir rhag y drefn drwyddedu, ond ar gyfer gweithrediadau a drwyddedir neu weithrediadau a eithrir, gosodir amodau y mae’n rhaid i weithredwyr gydymffurfio â hwy wrth gyflawni eu gweithrediadau. Mae’r amodau hyn yn cynnwys rheolaethau ar fathau a meintiau o wastraff y gellir ei drin, uchder a gofod rhwng pentyrrau a’r rhagofalon tân er mwyn lleihau’r risg o dân.

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am reoleiddio safleoedd o ddydd i ddydd ac am weithredu camau yn erbyn y rhai sy’n methu cyrraedd y safonau gofynnol neu sy’n gweithredu’n anghyfreithlon. Mae ganddynt bwerau i atal troseddu, rheoli a glanhau safleoedd, ac i atal neu gosbi gweithgarwch troseddol. Wrth gyflawni eu dyletswyddau rheoleiddio, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn arolygu ac yn archwilio safleoedd i wirio cydymffurfiaeth. Cyflawnir y camau gorfodi drwy weithio gyda gweithredwyr a lle bo angen, drwy gyflwyno hysbysiadau cydymffurfio neu orfodi, neu gyhoeddi hysbysiadau atal ac atal dros dro. Mae ganddynt allu hefyd i amrywio neu ddirymu trwydded.

Rwy’n cefnogi ac yn annog sefydliadau i weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r materion hyn. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio gyda gwasanaethau tân ac achub Cymru i nodi safleoedd risg uchel ac i dargedu rheoleiddio yn y safleoedd hyn. Ym mis Mai eleni, cyhoeddwyd canllawiau ganddynt ar atal a lliniaru tân. Defnyddir y canllawiau i addasu trwyddedau a datblygu gofynion atal tân ar gyfer trwyddedau newydd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd ac mae’n parhau i fonitro, gydag eraill, yr achos o storio naddion pren yn anghyfreithlon yn hen orsaf bŵer cwm Llynfi. Mae South Wales Wood Recycling Ltd yn gweithredu nifer o safleoedd. Mae ganddynt ddau gyfleuster trwyddedig ar gyfer storio pren gwastraff lle mae tanau wedi digwydd. Ar hyn o bryd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i’r cwmni ac wedi rhoi camau cyfreithiol ar waith. Er mwyn osgoi peryglu’r camau hyn, Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn gallu rhoi sylwadau ar weithgareddau penodol y cwmni. Rwy’n cydnabod y pryderon difrifol am safleoedd sy’n perfformio’n wael, a’r angen i sicrhau bod safleoedd yn cael eu gweithredu a’u rheoleiddio’n dda.

Bûm yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar gryfhau eu pwerau gorfodi i fynd i’r afael â throseddau gwastraff a pherfformiad gwael yn y diwydiant gwastraff. Y llynedd, cyflwynwyd pwerau gennym i’w gwneud yn haws i’r rheoleiddiwr atal trwyddedau a rhoi camau ar waith i gael gwared ar risg o lygredd difrifol. Rydym wedi cyflwyno pwerau i’w gwneud yn haws i Cyfoeth Naturiol Cymru wneud cais i’r Uchel Lys am waharddeb i orfodi cydymffurfiaeth â hysbysiadau gorfodi ac atal.

Byddaf yn cyflwyno mwy o bwerau newydd i alluogi rheoleiddiwr i roi camau cadarn ar waith i atal troseddwyr. Byddaf yn darparu pwerau i Cyfoeth Naturiol Cymru gloi gatiau safle, er mwyn atal mynediad yn gorfforol ac atal mwy o wastraff rhag dod i mewn i’r safle. Bydd pobl sy’n cadw gwastraff, neu’n caniatáu i wastraff gael ei gadw ar eu tir yn anghyfreithlon yn cael eu gwneud yn gyfrifol am symud gwastraff oddi ar y tir hwnnw. Byddaf yn adolygu darpariaethau ar gyfer prawf person addas a phriodol newydd er mwyn sicrhau bod gweithredwyr yn gymwys ac yn ddiogel yn ariannol i weithredu cyfleusterau.

Byddaf hefyd yn ymgynghori yn gynnar y flwyddyn nesaf ar adolygiad o’r drefn eithrio. Bydd yr adolygiad yn edrych yn fanwl ar storio deunyddiau fflamadwy ac yn darparu gwelliannau pellach i dynhau’r gyfundrefn reoleiddio. Rwy’n edrych yn ddifrifol iawn ar y posibilrwydd o ddarparu cosbau sifil, megis cosbau ariannol amrywiadwy ac ymrwymiadau gorfodi, i gyd-fynd â’r cosbau troseddol o fewn y drefn drwyddedu. Byddaf yn trafod y mater gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn ystyried sut y gallwn fwrw ymlaen â hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno’r Bil treth gwarediadau tirlenwi ym mis Ebrill 2018. Bydd cynigion yn y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i dalu treth am warediadau anghyfreithlon, a fydd yn darparu arf ataliol cryf pellach yn erbyn gweithgaredd anghyfreithlon.

Mae’r system cyfiawnder yn fater a gadwyd yn ôl, felly nid oes gennyf bwerau i ddiwygio cosbau ariannol am dorri amodau cynllunio a thrwyddedau amgylcheddol. Fodd bynnag, yn gyffredinol, mae deddfwriaeth gwastraff eisoes yn ennyn y gosb uchaf. Ar dditiad, gall hyn olygu dirwy ddigyfyngiad neu ddedfryd o hyd at ddwy flynedd yn y carchar. Er bod lefel y dirwyon a osodwyd gan y llysoedd yn hanesyddol wedi bod yn isel, ac efallai nad ydynt wedi gweithredu fel ataliad neu gosb ddigonol, yn 2014, cyhoeddodd y Cyngor Dedfrydu ganllawiau i lysoedd troseddol ar ddedfrydu troseddau amgylcheddol. Am y tro cyntaf, darparwyd tariff i ddangos y lefel briodol o gosbau, yn dibynnu ar ddifrifoldeb y drosedd a throsiant ac elw’r sefydliad dan sylw. Mae’r canllaw dedfrydu eisoes wedi cael effaith amlwg ar ddedfrydu troseddau gwastraff. Ar gyfer achosion mwy difrifol o weithgarwch anghyfreithlon, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried defnyddio Deddf Enillion Troseddau 2002 i adennill arian a gafwyd yn anghyfreithlon. Maent wedi cael rhywfaint o lwyddiant yn defnyddio’r pwerau hyn, sy’n gweithredu fel cosb gref ac fel ataliad i droseddwyr eraill.

Rwy’n cytuno bod angen gwneud mwy er mwyn gwella perfformiad y sector ac i gael gwared ar yr elfen ddiegwyddor o’r diwydiant. Byddaf yn parhau i ystyried yr opsiynau i gryfhau camau rheoleiddio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a’r diwydiant i sicrhau bod hyn yn digwydd. Wrth gwrs, rwy’n hapus i gyfarfod â Huw Irranca-Davies i drafod ei syniadau’n fwy manwl, ac rwy’n gobeithio y bydd y newidiadau deddfwriaethol rwyf wedi’u hamlinellu, a’r camau a roddais ar waith, yn tawelu meddwl yr Aelodau sy’n bresennol a’r holl etholwyr fy mod yn mynd i’r afael â’r mater hwn. Byddaf hefyd yn sicrhau bod yr holl bwyntiau rydych wedi’u crybwyll yn cael sylw gan Cyfoeth Naturiol Cymru a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelod pan fyddwn yn cyfarfod. Diolch.