<p>Cynllun Peilot Rhagnodi Cymdeithasol</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 11 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:34, 11 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Mae'n gwbl gywir y bydd cyfathrebu da rhwng gwasanaethau iechyd a chymunedol yn hanfodol i’r rhwydweithiau gael eu datblygu a'u sefydlu er mwyn gwario'r arian y cyfeiriais ato’n gynharach yn ddoeth. Fe wnaethom ni lansio ein cynllun cyflawni tair blynedd newydd ar gyfer ein strategaeth iechyd meddwl, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', ddoe, a bydd y cynllun rhagbrofol rhagnodi cymdeithasol a gafodd ei gynnwys yn y cynllun cyflawni hefyd yn ategu’r camau hynny. Byddwn yn gobeithio wedyn y gall llywodraeth leol ddysgu o’r cynllun cyflawni a chyflwyno arfer gorau yn eu hardaloedd.