Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 11 Hydref 2016.
Mae hon yn stori ryfedd, Lywydd, yr hoffwn, rwy’n credu, gyda'ch caniatâd, ymhelaethu arni. Yn gyntaf oll, roedd y llythyr a dderbyniwyd gan Mohammad Asghar yn ddyddiedig 6 Hydref. Roedd yn ymddiheuro am yr oedi cyn ymateb—rhyfeddol, o ystyried y ffaith i’r cyhoeddiad gael ei wneud ar 3 Hydref. Rwy’n meddwl tybed pryd yr anfonwyd y llythyr hwnnw’n wreiddiol, felly, oherwydd, fel rheol, nid ydym yn cael ymateb o fewn tri diwrnod gan yr Adran Drafnidiaeth yn ymddiheuro am yr oedi. Mae hynny'n rhyfedd, onid yw?
Yn ail, wrth gwrs, nid yw'n iawn i ddweud bod y wybodaeth, y data cynllunio, gerbron Llywodraeth Cymru ar unrhyw adeg cyn mis Gorffennaf eleni. Ni roddwyd unrhyw arwydd gan yr Adran Drafnidiaeth o sut y byddai’r data cynllunio hynny yn edrych. A dweud y gwir, dywedasant, ar ôl y refferendwm, eu bod yn credu y byddai oedi cyn cyhoeddi'r data hynny—dyna ddywedwyd wrth ein swyddogion. Nid yw'n wir ychwaith bod y wybodaeth gan swyddogion cyn diwedd mis Gorffennaf. Yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd oedd bod ein swyddogion wedi darganfod bod Highways England wedi derbyn y wybodaeth bythefnos ymlaen llaw. Nid oedd wedi ei rhannu gyda ni fel Llywodraeth. Gofynnwyd am y wybodaeth; ni chafodd ei darparu tan 28 Gorffennaf.
Hyd yn oed yn fwy rhyfedd yw bod y data a ddarparwyd fel rheol, rwy’n deall—fel rheol—yn cael eu darparu ar ffurf ddrafft, lle caniateir cyfnod ymgynghori o naw i 12 mis er mwyn i'r data gael eu harchwilio a'u cwestiynu. Y tro hwn, nid ydynt wedi eu cyhoeddi ar ffurf ddrafft; maen nhw wedi eu cyhoeddi ar ffurf derfynol, sy'n peri pryder i ni gan fod y data mor hynod o wallus. Er enghraifft, mae'n defnyddio data cynllunio ar gyfer Cymru nad ydynt wedi eu cynnwys yn y cynllun cyflawni lleol ac nad ydynt wedi’u gwreiddio mewn ffaith. Ni ddarparwyd unrhyw wybodaeth i ni o ran o ble y cafodd yr Adran Drafnidiaeth afael ar y wybodaeth hon.
Unwaith y caiff y data eu darparu, mae'n cymryd amser maith i weld beth yw effaith y data hynny ar unrhyw gynllun ffordd penodol, a dyna pam, fel rheol, y ceir y cyfnod naw i 12 mis i hynny ddigwydd. Y tro hwn, dim byd. Fe'i gwnaed yn derfynol yn syth. Rhyfedd, felly, bod Highways England wedi ei hysbysu o’n blaenau ni, ac, wrth gwrs, rydym ni’n gwybod, ar ôl dadansoddi'r data, mai’r hyn y mae’r gyfres hon o ddata yn ei wneud, mewn gwirionedd, yw bod o fudd i gynlluniau yn Llundain, de-ddwyrain Lloegr a dwyrain Lloegr ar draul pobman arall. Hyd yn oed yn fwy rhyfedd, onid yw?
Felly, rydym ni’n galw ar yr Adran Drafnidiaeth i ailystyried y ffigurau hyn, i weithio gyda ni i ailystyried y ffigurau hyn, i ddweud wrthym ble y daethant o hyd i'r data cynllunio, ac i weithio gyda ni er mwyn darparu ffigurau sy'n llawer mwy cywir i gyd-destun Cymru. Felly, ceir llawer o faterion rhyfedd a godwyd yn y fan yna, nad ydym wedi derbyn ateb iddynt eto.