Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 11 Hydref 2016.
Diolch i chi am yr ateb manwl iawn yna, Brif Weinidog. Nid wyf yn credu bod llawer sy’n rhyfedd am unrhyw ran o hyn. Rydym ni wedi bod yn dweud dros y flwyddyn ddiwethaf bod angen ailystyried y fethodoleg fel y gellid gwerthuso’r llwybr glas a du ar sail yr un fethodoleg, fel y gellid, yn y pen draw, cymharu’r ddau lwybr yn ffafriol, ac y gallech fwrw ymlaen â’r llwybr glas neu’r llwybr du. Ateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng traffig o gwmpas y de-ddwyrain—oherwydd mae yn argyfwng; gall y dagfa ar yr M4 ar adegau penodol o'r dydd ymestyn yn ôl dros 12 milltir—yw ffafrio’r llwybr du. Felly, a allwch chi ymrwymo i gael ateb traffig ar waith erbyn 2021 fel y gall pobl fod yn hyderus y bydd yr ymrwymiad yn eich maniffesto i ddarparu’r ateb hwnnw yn cael ei fodloni erbyn 2021?