Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 11 Hydref 2016.
Wel, mae’n rhywbeth, wrth gwrs, i awdurdodau lleol, ynglŷn â sicrhau bod yna ddigon o arian ar gael i’w hysgolion nhw. Rydym, wrth gwrs, yn rhoi arian iddyn nhw ac rŷm ni’n erfyn arnyn nhw i hala swm digonol ar ysgolion er mwyn iddyn nhw allu creu addysg dda yn eu hardaloedd nhw. Ond nhw, wrth gwrs, sydd yn gyfrifol am gyllido ysgolion unigol yn eu hardaloedd nhw.