Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 11 Hydref 2016.
Rwy’n credu bod hanner ohono, yn fras, wedi ei ddyrannu. Mae'n fater, wrth gwrs, i awdurdodau lleol gyflwyno cynlluniau i ddisodli neu, yn wir, i atgyweirio adeiladau ysgol, ac rwyf wedi eu gweld nhw ar hyd a lled Cymru—o'r Rhyl i Ysgol Teilo Sant yng Nghaerdydd. Roeddwn i yn y chweched yng Nglannau Dyfrdwy ychydig wythnosau yn ôl, ac rydym ni’n gweld bod adeiladau newydd yn cael eu codi ym mhob cwr o Gymru i gynnig cyfleusterau sydd eu hangen ar bobl ifanc ac y maen nhw’n eu disgwyl, tra, ar yr un pryd nad oes dim yn digwydd o dan ei blaid ef yn Lloegr.