Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 11 Hydref 2016.
O gofio’r bleidlais Brexit, ac, yn deillio o hynny, yr angen efallai i wella gwybodaeth pobl Cymru o beth sy’n digwydd yn y lle yma, beth sy’n digwydd yng Nghymru, gwella portread Cymru, a beth yn union y gallwn ni ei wneud yn y lle yma a beth nad ydym ni’n gallu ei wneud, pa drafodaethau, felly, ydych chi wedi eu cael gyda phwysigion y BBC ac eraill ynglŷn â’r angen dybryd i wella portread Cymru y tu mewn i Gymru a’r tu allan i Gymru?