Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 11 Hydref 2016.
Mae yna dystiolaeth, wrth gwrs, fod plant sy’n cwympo ar ei hôl hi yn y blynyddoedd cynnar, yn enwedig o safbwynt datblygiad ‘cognitive’, yn fwy tebygol o fod yn stryglo yn nes ymlaen yn eu bywyd o safbwynt cyfleon bywyd. Nawr, mae yna dystiolaeth hefyd yn dangos bod cael ymarferwyr lefel gradd o fewn y cyd-destun blynyddoedd cynnar yna yn help mawr i sicrhau nad yw hynny’n digwydd. Mae’ch Llywodraeth chi, wrth gwrs, yn mynd i gyhoeddi yn y gwanwyn cynllun gweithlu'r blynyddoedd cynnar a fydd, gobeithio, yn arfogi gweithwyr yn y sector yna â’r sgiliau angenrheidiol. A fydd y cynllun yna’n cynnwys ymrwymiad clir i sicrhau bod yr ymarferwyr yn y sector yn rhai sydd â gradd, yn enwedig, wrth gwrs, y rhai sy’n gweithio gyda phlant sy’n byw mewn tlodi?