Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 11 Hydref 2016.
Mae ReAct wedi bod yn llwyddiannus iawn, iawn ac mae’n sicr—. Mae’r enghraifft y mae’r Aelod wedi ei rhoi yn dangos hynny. O'n safbwynt ni, byddwn yn parhau i sicrhau bod cynlluniau fel ReAct ac eraill sydd wedi bod mor llwyddiannus dros y blynyddoedd yn parhau i weithio er budd pobl o ran eu galluogi i gaffael y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i ymuno â'r gweithlu.