Part of the debate – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 11 Hydref 2016.
Lywydd, mae gennyf ddau newid i'w gwneud i'r agenda heddiw. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn gwneud datganiad ar gymunedau cydnerth ac, ar ôl y ddadl heddiw, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn gwneud datganiad ar ollyngiad olew yr wythnos diwethaf yn Nantycaws yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i’r Aelodau ymhlith y papurau cyfarfod ar gael yn electronig.