Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 11 Hydref 2016.
Wel, mater i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yw hwn o ran cyfrifoldebau am gefnffyrdd a chanllawiau i awdurdodau lleol o ran cynnal a chadw a rheolaeth. Wrth gwrs, ceir asesiadau risg, fel y gwyddoch, o ran diogelwch i gerddwyr ac, yn wir, i bawb sy'n teithio ar gefnffyrdd ac, yn wir, ar rwydweithiau ffyrdd lleol hefyd. Felly, byddaf yn ceisio egluro'r sefyllfa o ran goleuadau ar gefnffyrdd.