Part of the debate – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 11 Hydref 2016.
Wel, rydym ni’n gwbl ymwybodol o'r ffaith eich bod chi’n gwrthwynebu’r hyn a oedd yn ddarn blaengar iawn o ddeddfwriaeth tai a gefnogwyd ar draws y Siambr hon. Ond mae'n bwysig, wrth gwrs, ei fod yn cael ei roi ar waith yn briodol ac yn effeithiol nawr ac felly, wrth gwrs, byddwn yn ystyried y materion hyn. Ond yn amlwg, ceir amserlen ar gyfer hyn o ran cyfrifoldebau Rhentu Doeth Cymru, a byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet edrych ar y mater a godwyd gennych.