Part of the debate – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 11 Hydref 2016.
Diolch yn fawr iawn. Rydym wedi cael rhai cyfraniadau helaeth gan y llefarwyr. Mae gennyf i nifer o bobl sy'n dymuno siarad, ac mae mwy yn ychwanegu eu henwau at y rhestr hefyd, felly a allaf ofyn i Aelodau yn awr os gallent gyflwyno eu cwestiynau yn gryno iawn? Nid yw hynny'n wahoddiad i chi roi araith tri munud o hyd—dim ond cyflwyniad byr i'ch cwestiwn ac yna gall eich cydweithwyr eraill i gyd siarad yn y ddadl hon. Mike Hedges.