Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Cyfarfûm yn ddiweddar â grŵp o ffermwyr yn Ynys-y-bŵl, sy’n ardal o dir fferm ymylol yn fy etholaeth, mewn cyfarfod a drefnwyd gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr. Buom yn trafod ansawdd asidig y pridd lleol, ac awgrymwyd y gallai calchu pridd yn yr ardal fod o fudd i ffermwyr, ond byddai hefyd yn arwain at welliannau amgylcheddol. A fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried ymgorffori’r syniad hwn mewn cynlluniau cymorth i ffermwr ar hyn o bryd ac yn y dyfodol?